Symud i'r prif gynnwys
Diwrnod Agored Sgiliau Ffilm

5 Rhagfyr 2025

Ddydd Mawrth yr wythnos hon, cynhaliodd timau Digidio Sgrin a Sain a’r timau Curadurol y cyntaf o ddau ddiwrnod agored fel rhan o’r prosiect Sgiliau Ffilm ar gyfer y Dyfodol.

Ym mis Awst, sicrhaodd y tîm Digidio gyllid gan y Sefydliad Ffilm Prydain a’r Loteri Genedlaethol i wella gallu technegol ein staff. Mae’r cyllid hwn yn cefnogi hyfforddiant penodol mewn trin ffilm, arolygu, digidio a gwaith ôl-gynhyrchu. Nod y prosiect yw adeiladu gwydnwch o fewn y tîm digidio a datblygu gweithlu mwy hyblyg a medrus, yn barod i fynd i’r afael â heriau cadwraeth sain a delwedd amrywiol.

Er mwyn ehangu effaith y prosiect y tu hwnt i’r Llyfrgell, cyflwynwyd dau ddiwrnod agored i’r cyhoedd. Cynlluniwyd y digwyddiadau hyn i’n helpu i ymgysylltu â myfyrwyr, selogion ffilm a gweithwyr proffesiynol ym maes treftadaeth. Roedd hefyd yn ffordd o groesawu pobl newydd i ddarganfod y gwaith arbenigol a wneir gan ein timau.

Roedd y diwrnod agored cyntaf yn cynnwys cymysgedd o sgyrsiau, teithiau tywys o gwmpas bloc technegol sain a delwedd, a sesiynau ymarferol i’r mynychwyr. Cafodd groeso mawr, gyda sawl un o’r mynychwyr yn dweud mai dyma’r tro cyntaf iddynt ymweld â’r llyfrgell.

Bydd yr ail ddiwrnod agored yn cael ei gynnal yn y Gwanwyn y flwyddyn nesaf, gyda ffocws ar weithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn sector treftadaeth Cymru, gan ddarparu arweiniad ymarferol ar reoli, trin a digidio casgliadau sain a delwedd.

Categori: Newyddion