Symud i'r prif gynnwys
Golygfa yn edrych i lawr ar Ystafell Ddarllen y Llyfrgell gyda desgiau pren yn y canol a gwahanol lefelau o silffoedd i'r naill ochr a'r llall

Ysgrifennwyd gan David Moore

7 Rhagfyr 2025

Mae'r archifau a'r llawysgrifau yng nghasgliad y Llyfrgell yma i chi eu defnyddio a'u mwynhau. Eich Archif Chi ydy hon, ac mae ein harchifyddion yn ychwanegu’n gyson at ein catalog ar-lein. Yn ogystal ag arbenigedd ein staff, sydd wedi bod yn archwilio amrywiaeth o ddulliau catalogio newydd, rydym yn gwerthfawrogi'n fawr gymorth rhoddwyr, perchnogion, ymchwilwyr, gwirfoddolwyr, myfyrwyr a chyllid allanol wrth ein galluogi i gael mynediad at archifau, eu deall, eu trefnu, eu disgrifio a’u rhannu. Dyma rai o'r catalogau rydyn ni wedi eu cwblhau yn ystod 2025; rydym yn bwriadu cyhoeddi diweddariad yn y Flwyddyn Newydd.

Alfred Janes Papers
Papurau'r artist portread blaenllaw a’r darlithydd Alfred Janes (1911-1999), aelod o 'gang Kardomah' Abertawe yn y 1930au a gynhwysai Vernon Watkins, Charles Fisher, John Prichard, Mervyn Levy, Bert Trick a Dylan Thomas (gweler yr eitem nesaf).

Daniel Jones Papers
Ychwanegiadau at bapurau'r cyfansoddwr Daniel Jones (1912-1993), yn cynnwys ei farddoniaeth a'i sgoriau cerddorol, ac yn benodol deunydd yn ymwneud â'i gysylltiadau a'i gydweithrediadau llenyddol, cerddorol a phersonol â Dylan Thomas, ffrind cyffredin i Alfred Janes (gweler yr eitem flaenorol).

Archif Sgriptiau BBC Scripts Archive
1,189 o focsys ychwanegol o sgriptiau rhaglenni radio a theledu’r BBC a ddarlledwyd yng Nghymru o’r 1930au hyd at 2010, yn cwmpasu newyddion, drama, adloniant ysgafn, cerddoriaeth, chwaraeon, crefydd, addysg a rhaglenni plant. Mae gan y Llyfrgell gatalogau o 2,200 o focsys o sgriptiau’r BBC bellach, sy’n ategu (weithiau’n unigryw) y recordiadau sain a fideo yn Archif Ddarlledu Cymru.

Dewi-Prys Thomas Trust Archive
Cofnodion yr ymddiriedolaeth a sefydlwyd ym 1990 i ddathlu bywyd a gwerthoedd y pensaer, cynlluniwr trefi ac academydd arloesol o Gymru, Dewi-Prys Thomas (1916-1985).

George Ewart Evans Papers
Tri bocs ychwanegol o bapurau’n ymwneud â bywyd a gwaith yr arbenigwr llên gwerin, yr awdur a'r athro ysgol George Ewart Evans (1909-1988), gan gynnwys dyddiaduron, nodiadau, gohebiaeth, ffotograffau, deunydd yn ymwneud â'i weithiau cyhoeddedig, a mwy.

John Carnac Papers
Gohebiaeth a dogfennau cysylltiedig y Brigadydd-Gadfridog John Carnac (1716-1800), cadlywydd lluoedd Cwmni Dwyrain India ym Mengal a chydymaith agos i Robert Clive (‘Clive o India’), yn rhoi cipolwg ar wleidyddiaeth India, materion milwrol, masnach a diplomyddiaeth gyda phwerau Ewropeaidd, yn ogystal â bywyd personol Carnac.

John Pikoulis (Alun Lewis) Research Papers
Papurau'r awdur a'r academydd Dr John Pikoulis, y mae bron pob un ohonynt yn ymwneud â'i ymchwil i waith a bywyd personol y bardd Eingl-Gymreig Alun Lewis (1915-1944), yn enwedig y cyfnod pan oedd Lewis yn India yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Maesmawr Hall Estate Records and Family Papers
Gweithredoedd tir a dogfennau yn ymwneud â theulu Davies o Neuadd Maesmawr, Llandinam, Sir Drefaldwyn, a'u haelwyd a'u hystâd dros gyfnod o 400 mlynedd hyd at 1997.

National Dance Company Wales (Diversions) Archive
Cofnodion Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, a elwid gynt yn ‘Diversions’ a ‘Jumpers’, o’i sefydlu ym 1983 hyd at ymadawiad ei gyd-sylfaenwyr, Ann Sholem a Roy Campbell-Moore, yn 2013.

Papurau Rhys Mwyn
Papurau’n ymwneud â bywyd proffesiynol y cerddor, archeolegydd, awdur a darlithydd Rhys Mwyn.

Powis Castle Estate Records – list of uncatalogued documents
Rhestr o holl gofnodion ystâd Castell Powis nad oeddent wedi'u cynnwys yng nghatalogau'r Llyfrgell o'r blaen, yn cynnwys 253 o focsys, 1,036 o gyfrolau a 9 rholyn - tua thraean o'r archif.

Papurau T. H. Parry-Williams ac Amy Parry-Williams
Bocs ychwanegol o bapurau'r bardd, yr awdur a’r ysgolhaig T. H. Parry-Williams (1887-1975), gan gynnwys ei ohebiaeth a'i farddoniaeth yn ogystal â deunydd yn ymwneud â'i wrthwynebiad cydwybodol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ei ail Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a'i deithiau a’i astudiaethau yn Ffrainc, yr Almaen a De America.

Sianed Elin Jones Papers
Papurau’n ymwneud â bywyd a gwaith y cerddor, y gantores a'r gyfansoddwraig Sianed Elin Jones (1959-2022).

Vera Bassett Papers
Papurau'r artist a'r ddylunyddes Vera Bassett (1912-1997) o Bontarddulais, yn ymwneud yn bennaf â'i gwaith.

Welsh Quoits Archive
Hanes printiedig, gohebiaeth ac effemera’n ymwneud â gêm y quoits yng Nghymru ers 1914, gan gynnwys rhaglenni, deunydd cyhoeddusrwydd, ystadegau, rheolau, torion papur newydd a chylchlythyrau. Mae llawer o'r archif yn ymwneud â gemau a chwaraewyd gan Gymru yn erbyn yr Alban ar dir Cymru.

William Galloway Mining Reports
Adroddiadau technegol ac ariannol ar gloddio glo a mwynau eraill - yng Nghymru a llawer o wledydd eraill - a luniwyd gan y peiriannydd mwyngloddio, yr athro prifysgol a'r diwydiannwr Syr William Galloway (1840-1927), sy'n fwyaf adnabyddus am ei gyfraniad at atal ffrwydradau a damweiniau eraill mewn pyllau glo.

Ar y gweill ar hyn o bryd:


Papurau Dannie Abse
•Ychwanegiad mawr ac arwyddocaol at archif y bardd.

Archif Ecodyfi
•Cofnodion yr ymddiriedolaeth amgylcheddol a leolid ym Machynlleth.

Papurau Meredydd Evans a Phyllis Kinney
•Papurau dau o'r ffigurau mwyaf arwyddocaol ym myd cerddoriaeth draddodiadol Gymreig, gan gynnwys hefyd eu gweithgareddau yn y byd academaidd ac wrth ymgyrchu dros yr iaith Gymraeg.

Workers’ Educational Association (North Wales) Records
•Archif sylweddol Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, sy’n dangos sut y mae addysg wedi'i darparu i'r rhai dan anfantais ers 1925.

 

Categori: Erthygl