Symud i'r prif gynnwys
Tudalennau llawysgrif wedi'u casglu a'u gwasgu mewn rhwymwr pren

Ysgrifennwyd gan Lucie Hobson

29 Tachwedd 2025

Yn 2024 prynodd y Llyfrgell enghraifft brin o lawysgrif yn cynnwys cofnod cynnar o anheddiad Cymreig yn Pennsylvania yn yr Unol Daleithiau. Mae'r gyfrol yn cofnodi gwerthiant tiroedd i Grynwyr Cymreig yn yr ardal a elwir y 'Welsh Tract', Pennsylvania, a brynwyd wrth William Penn yn yr 17eg ganrif. Wedi'u llunio rhwng 1683/4-1686 a 1693/4 yn swyddfa Thomas Lloyd, Meistr y Rholiau yn Philadelphia (gynt o Dolobran, Sir Drefaldwyn), cofnodwyd y cytundebau mewn o leiaf dair llaw glerigol wyth deg un o drafodion gyda thua chwech a hanner cant o'r rhain yn manylu ar werthiannau gan chwech o'r Prynwyr Gwreiddiol Cymreig (a brynodd dir yn uniongyrchol gan William Penn) i chwech a hanner cant o Is-brynwyr mewn chwe sir yng Nghymru. Mae'r gyfrol yn cofnodi amrywiaeth o brynwyr o Gymru, gan gynnwys o'r Bala, Sir Feirionnydd (John ap Thomas o Llaithgwm ac Edward Jones) a'r Trallwng, Sir Drefaldwyn (Richard Davies), yn ogystal â chofnodi dau ar hugain arall o drafodion yn ymwneud â phrynwyr o Wiltshire, Swydd Henffordd, a mannau eraill yn Lloegr a Pennsylvania.

Roedd bywyd hir y gyfrol dros sawl canrif yn golygu ei bod mewn cyflwr gwael ac angen gwaith cadwraeth sylweddol ac ail-rwymo. Yn gyntaf, cafodd ei thynnu o'i rwymiad a'i gloriau difrodi er mwyn gallu gwneud asesiad llawn o'r papur. Yna golchwyd y papur mewn baddon dŵr er mwyn niwtraleiddio yr asid yn ei inc haern-bustl cyn cael ei sychu a'i gwastaru'n ofalus. Yna rhoddwyd pob tudalen ar flwch golau i'w hatgyweirio a'i chryfhau gyda phapur meinwe Japaneaidd di-asid arbenigol, a'i threfnu'n ôl mewn casgliadau a'i hail-rwymo gan ddefnyddio dull mor agos â phosibl i'r gwreiddiol. Yn olaf, ychwanegwyd byrddau newydd gyda lledr brown i gwblhau'r broses. Mae pob cam yn y broses gadwraeth yn defnyddio deunyddiau naturiol ac wedi'i gynllunio i fod yn gwbl wrthdroadwy, er mwyn peidio â gorfodi ar gyflwr gwreiddiol y llawysgrif.
 

Fel goroesiad eithriadol o hanes Cymru-Americanaidd, sicrhaodd y gwaith cadwraeth hwn fod y llawysgrif wedi'i chryfhau ac mewn cyflwr digon da i'w chatalogio, ei digido a'i chadw i'w defnyddio yn y dyfodol. Gellir gweld y disgrifiad llawn a'r fersiwn ddigidol ar ein Catalog Archifau a Llawysgrifau.

Categori: Erthygl