Ganed yr actor Richard Burton yn Richard Jenkins ym Mhontrhydyfen ar 10 Tachwedd 1925, gyda chyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal eleni i ddathlu ei ganmlwyddiant.
Mae llawer o’r sylw wedi canolbwyntio ar Philip Henry Burton (1904-1995), gyda rhyddhau’r ffilm Mr Burton (2025) a bywgraffiad newydd Angela V. John, Behind the Scenes: The Dramatic Lives of Philip Burton (Parthian Books, 2025). Roedd Philip yn ysgolfeistr ym Mhort Talbot, a daeth yn fentor a gwarcheidwad i Richard Jenkins, gyda hwnnw’n mabwysiadu ei gyfenw. Bu hefyd yn cynhyrchu ac yn ysgrifennu ar gyfer radio’r BBC, cyn symud i America lle sefydlodd yr American Musical and Dramatic Academy, cyn ymddeol yn y pen draw i’r Florida Keys.
Tra bod yna eitemau yn ymwneud â Richard Burton yma ac acw yn archifau’r Llyfrgell Genedlaethol (er enghraifft grŵp bach o lythyrau at ei ffrind Dennis Burgess) mae ein papurau yn ymwneud â Philip Burton dipyn yn fwy sylweddol.
Mae nifer o sgriptiau radio Philip i’w gweld yn Archif Sgriptiau'r BBC ac mae ei lythyrau at ei gyfaill y nofelydd Rhys Davies (1901-1978) yn disgrifio ei amryfal weithgareddau yn yr Unol Daleithiau. Mae llawysgrifau Philip Burton yn cynnwys teipysgrif ei gofiant Richard & Philip: The Burtons (Llundain, 1992) (NLW MS 23544D) a’r gohebiaeth gyda David A. Callard a arweiniodd at gyhoeddi’r gyfrol honno (NLW MS 23545D).
Roedd Philip Burton yn awdur nifer o lyfrau eraill, gan gynnwys y nofel You, My Brother (Efrog Newydd, 1973), ond mae gan y Llyfrgell hefyd deipysgrifau o ddwy nofel heb eu cyhoeddi, sef ‘They Called Me Gentleman Johnny’ (NLW MS 23542D) ac ‘A Great Reckoning’ (NLW MS 23543D) yn ymwneud â bywydau’r dramodwyr Saesneg John Burgoyne (1722-1792) a Christopher Marlowe (1564-1593) yn eu tro.
Bu farw Philip Burton yn yr ysbyty yn Florida ar 28 Ionawr 1995, yn 90 mlwydd oed. Roedd ei ddisgybl Richard wedi marw degawd cyn hynny yn Genefa, Y Swisdir, ar 5 Awst 1984.
Categori: Erthygl
