Symud i'r prif gynnwys
Gwely o flodau lelog a phorffor wedi'u hamgylchynu gan ffin greigiog

5 Rhagfyr 2025

Pan sonnir am y term amrywiaeth mewn archifau, yn aml, mae’n dod gyda chyfnodau o gwestiynu a chamddealltwriaeth. Er enghraifft, sut gall casgliad wedi’u creu ar gyfer grŵp o bobl benodol mewn lleoliad penodol fod yn amrywiol?
 

O'n safbwynt i, rwy'n hoffi meddwl am amrywiaeth fel blodau, mae pob un yn unigryw ac yr un mor brydferth mewn bwndel (tusw). Yn aml iawn, mae amrywiaeth yn gyfyngedig i hil, rhyw a rhywedd, ond dwi’n ystyried hynny i fod braidd yn gul. Dwi'n credu y gallai amrywiaeth fod yn ffordd o feddwl, ein cefndir addysgol, neu ein dewis o flodau.
 

Mae blodau'n arddangos amrywiaeth anhygoel, o ran ffurf a swyddogaeth, gan wneud yn un o greadigaethau mwyaf deniadol natur. Maent yn amrywio'n fawr o ran maint, lliw, siâp ac arogl, gan addasu i wahanol amgylcheddau a pheilliau. O betalau cain tegeirianau, i flodau beiddgar, a bywiog y blodau haul, mae pob rhywogaeth wedi esblygu nodweddion unigryw i ddenu pryfed, adar, neu hyd yn oed y gwynt rydyn ni’n anadlu. Nid yn unig mae'r amrywiaeth yn esthetig ond hefyd yn ecolegol, gan fod blodau'n chwarae rhan hanfodol wrth gynnal bioamrywiaeth trwy gefnogi cadwyni bwyd ac ecosystemau.
 

Ar ben hynny, mae tua 400,000 o rywogaethau o blanhigion blodeuol yn hysbys yn fyd-eang ac os penderfynwn eu cyfyngu i rosod, mae tua 150–300, pob un yn unigryw (felly mae posibilrwydd cryf y gallai’r tusw o rosys coch wnaethoch chi brynu ar un adeg, neu falle yn bwriadu ei brynu, gynnwys gwahanol fathau).
 

Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae amcangyfrif o tua 8 biliwn o bobl. Mae’r poblogaethau hyn yn cynnwys gwahanol farnau, cefndiroedd, credoau crefyddol, credoau gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, treftadaeth, credoau cymdeithasol a phrofiadau bywyd. Yn anffodus, dros amser, dewiswyd a chadwyd Archifau a chofnodion yn ôl strwythurau pŵer neu normau’r dydd. Felly, gall chwilio am leisiau amrywiol fel menywod, pobl o ethnigrwydd arall neu’r LGBTQ+ o fewn casgliadau archifau fod yn anodd, yn broblemus, neu’n anghywir.
 

Mae amrywiaeth mewn archifau yn arbennig o bwysig gan ei fod yn creu cyfleoedd i ddeall y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, a ni ein hunain yn well. Pan roddir amrywiaeth ar waith trwy gynhwysiant mae’n arwain at arloesedd, creadigrwydd, cynhyrchiant ac ymgysylltiad gwell. Mae’n sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Felly, y tro nesaf y byddwch chi'n meddwl am amrywiaeth, meddyliwch am flodau a pha mor brydferth ydyn nhw'n gwneud ein byd; un petal ar y tro.
 

Categori: Erthygl