Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cysylltu cymunedau â'r straeon, yr atgofion a'r casgliadau a gaiff eu cadw ar eu rhan, trwy daith Dy Lyfrgell Di, gan ysbrydoli pobl i'w darganfod, eu harchwilio a dod â nhw'n fyw mewn ffyrdd newydd a chreadigol.
Yn Wrecsam, bydd hanes pêl-droed lleol a thrychineb Gresffordd wrth wraidd diwrnod o sgyrsiau, deunydd archif, gweithgareddau cymunedol a chyfleoedd i archwilio'r straeon sydd wedi siapio treftadaeth chwaraeon a chymeriad y ddinas.
Un o uchafbwyntiau'r digwyddiad fydd trafodaeth arbennig yn archwilio lle Wrecsam wrth galon pêl-droed Cymru, gan gynnwys deunydd archif nas gwelwyd o'r blaen o gyn-chwaraewyr Wrecsam a ffigurau pêl-droed yn sgwrsio a hyfforddi. Dan arweiniad sylwebydd Clwb Pêl-droed Wrecsam, Mark Griffiths, bydd y sesiwn yn tynnu ar ddeunydd o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn dod â chyfnodau anghofiedig o hanes y clwb yn ôl yn fyw. Bydd y drafodaeth yn cael ei chynnal yn rhan o ddigwyddiad Dy Lyfrgell Di ar 24 Medi yn Llyfrgell Wrecsam.
Drwy rwydwaith o Gorneli Clip ledled Cymru, gall pobl gael mynediad at gasgliadau sgrin, sain ac archif o'r Llyfrgell Genedlaethol a'u harchwilio, gan ddarganfod straeon sy'n eu cysylltu â'u hanes lleol a stori ehangach Cymru.
Dywedodd Mark Griffiths:
“Mae archif y Llyfrgell Genedlaethol yn drysorfa ryfeddol o wybodaeth am CPD Wrecsam, trydydd clwb pêl-droed hynaf y byd, ac am bêl-droed Cymru yn gyffredinol.
Mae gweld enwau’r gorffennol yn dod yn fyw mewn deunydd ffilm na wydden ni ei fod yn bodoli yn wefr.
Fe allech chi dreulio’r dydd yn edrych ar y ffilm gefndirol sydd gan gwmnïau teledu o wynebau’r gorffennol yn sgwrsio, hyfforddi ac yn cicio pêl o gwmpas yn stadiwm bêl-droed ryngwladol hynaf y byd.”
Bydd y drafodaeth banel yn archwilio lle ehangach Wrecsam yn hanes pêl-droed Cymru, o hanes Clwb Pêl-droed Wrecsam i ben-blwydd 150 mlynedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a sefydlwyd ym 1876.
Bydd y sesiwn hefyd yn ystyried yr hyn y gall deunydd archif ei ddatgelu na all cofnodion ysgrifenedig ei wneud, gan ddangos enwau cyfarwydd mewn eiliadau anffurfiol a chofnodi golygfeydd bob dydd o amgylch y cae sy'n cynnig persbectif gwahanol ar hanes y clwb. Bydd lleisiau lleol ychwanegol yn ymuno â'r drafodaeth, gan adlewyrchu diwylliant pêl-droed Wrecsam ar y cae ac oddi arno.
Bydd gweithgareddau galw heibio, rhad ac am ddim, yn digwydd gydol y dydd, gan gynnwys cyfleoedd i archwilio Gwylio a Gwrando, Archif Darlledu Cymru, cwrdd â thîm Casgliad y Werin, chwilio Deiseb Heddwch Menywod Cymru a phrofi Ôl | Haunts, profiad realiti rhithwir trochol wedi'i ysbrydoli gan dreftadaeth ddiwylliannol a chasgliadau cyfoethog Cymru. Bydd staff a phartneriaid y
Llyfrgell Genedlaethol wrth law drwy gydol y dydd i sgwrsio ag ymwelwyr, ateb cwestiynau a helpu pobl i ddarganfod y casgliadau, yr adnoddau digidol a'r gwasanaethau sydd ar gael drwy'r Llyfrgell.
Bydd ysgolion a grwpiau cymunedol hefyd yn cymryd rhan mewn sesiynau arbennig, tra bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau adloniant lleol, perfformiadau gan gôr Wrexham All Voices, darlleniadau o sesiynau barddoniaeth glowyr Wrecsam, a dangosiad o'r ffilm am drychineb lofa Gresffordd, The Terrible Price, 92 mlynedd ers y drasiedi a siapiodd ddyfodol y ddinas.
Dewch i ddarganfod straeon Wrecsam, profi perfformiadau newydd wedi'u hysbrydoli gan hanes lleol ac archwilio'r casgliadau sy'n cysylltu cymunedau ledled Cymru. Yna cewch weld i ble y gall y straeon hynny eich tywys nesaf, trwy eich Cornel Clip lleol, casgliadau digidol y Llyfrgell Genedlaethol a darganfod sut y gall eich rhan chi o stori Cymru gyfrannu at ddatblygu ein cof cenedlaethol trwy Gasgliad y Werin.
Cynhelir Dy Lyfrgell Di yn Llyfrgell Wrecsam, ddydd Iau 24 Medi rhwng 1pm a 7pm. Mae mynediad yn rhad ac am ddim, ac mae croeso i bawb.
Categori: Newyddion
