Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cysylltu cymunedau â'r straeon, yr atgofion a'r casgliadau a gaiff eu cadw ar eu rhan, trwy daith Dy Lyfrgell Di, gan ysbrydoli pobl i'w darganfod, eu harchwilio a dod â nhw'n fyw mewn ffyrdd newydd a chreadigol.
Yng Nghonwy, bydd hanes lleol wrth galon diwrnod o sgyrsiau, deunydd archif, gweithgareddau creadigol a chyfleoedd i archwilio sut mae gorffennol y dref yn parhau i lunio ei hunaniaeth heddiw.
Un o uchafbwyntiau'r digwyddiad fydd Ail-greu Conwy ar y Sgrîn Fawr, sesiwn a fydd yn archwilio sut mae deunydd archif wedi helpu i ysbrydoli ffilm animeiddio newydd. Mewn partneriaeth â TAPE Community Music and Film, mae Archif Ddarlledu Cymru wedi cefnogi datblygiad Below the Waves, ffilm sy'n dilyn Ffion a Nain wrth iddynt adael dociau Conwy i chwilio am fôr-forynion.
Drwy rwydwaith o Gorneli Clip ledled Cymru, gall pobl gael mynediad at gasgliadau sgrin, sain ac archif o'r Llyfrgell Genedlaethol a'u harchwilio, gan ddarganfod straeon sy'n eu cysylltu â'u hanes lleol a stori ehangach Cymru. Bydd yr archwiliad creadigol hwn yn rhannu gwaith ar y gweill ac yn datgelu sut y caiff deunydd archif o Gonwy ei ddefnyddio i siapio cymeriadau, lleoliadau a set y ffilm, yn rhan o ddigwyddiad Dy Lyfrgell Di ar 25 Medi yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy.
Mae dros 1,500 o eitemau sy'n ymwneud â Chonwy eisoes ar gael drwy Casgliad y Werin Cymru, wedi'u cyfrannu gan unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau, gan helpu i ddiogelu a rhannu straeon yr ardal.
Bydd y ddarlledwraig Maxine Hughes, sy'n hanu o Gonwy, yn ymuno â Dafydd Tudur, Pennaeth Ymgysylltu Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a'r hanesydd lleol Morgan Ditchburn ar gyfer y sgwrs gyda'r nos, Pe Gallai'r Muriau Hyn Siarad: Darganfod Hanes Conwy. Bydd y sgwrs yn archwilio deunydd o Gasgliad y Werin Cymru, casgliadau personol a gwybodaeth leol er mwyn datgelu straeon o orffennol Conwy, gan ganolbwyntio ar hanes mwy diweddar y dref a'r ugeinfed ganrif.
Bydd y sesiwn hefyd yn edrych ar ymchwil i fenywod lleol a lofnododd Deiseb Heddwch Menywod Cymru yn 1923 ac yn tynnu sylw at y cyfle sydd gan bobl Conwy a'r ardal gyfagos i gael mynediad at Archif Ddarlledu Cymru yn uniongyrchol yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy.
Dywedodd Dafydd Tudur, Pennaeth Ymgysylltu Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Mae hanes Conwy yn perthyn i bobl Conwy. Trwy gyfuniad o wybodaeth leol, casgliadau personol ac adnoddau fel Casgliad y Werin, gallwn ddatgelu, diogelu a rhannu'r hanes cyfoethog hwnnw gyda chynulleidfaoedd newydd. Rydym am i bobl adael y digwyddiad yn teimlo bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn perthyn iddyn nhw hefyd, ac yn cael eu hysbrydoli i ddarganfod, deall a rhannu eu hanes eu hunain."
Bydd gweithgareddau galw heibio, rhad ac am ddim, yn digwydd gydol y dydd, gan gynnwys cyfleoedd i archwilio Gwylio a Gwrando, Archif Darlledu Cymru, cwrdd â thîm Casgliad y Werin, chwilio Deiseb Heddwch Menywod Cymru a phrofi Ôl | Haunts, profiad realiti rhithwir trochol wedi'i
ysbrydoli gan dreftadaeth ddiwylliannol a chasgliadau cyfoethog Cymru. Bydd staff a phartneriaid y Llyfrgell Genedlaethol wrth law drwy gydol y dydd i sgwrsio ag ymwelwyr, ateb cwestiynau a helpu pobl i ddarganfod y casgliadau, yr adnoddau digidol a'r gwasanaethau sydd ar gael drwy'r Llyfrgell.
Bydd ysgolion a grwpiau cymunedol hefyd yn cymryd rhan mewn sesiynau pwrpasol, tra bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau lluniaeth, adloniant lleol gan Gôr Meibion Maelgwn a chyfleoedd i ymgysylltu â'r straeon, yr atgofion a'r dreftadaeth sydd wedi helpu i lunio Conwy.
Dewch i ddarganfod straeon Conwy, profi perfformiadau newydd wedi'u hysbrydoli gan hanes lleol ac archwilio'r casgliadau sy'n cysylltu cymunedau ledled Cymru. Yna cewch weld i ble y gall y straeon hynny eich tywys nesaf, trwy eich Cornel Clip lleol, casgliadau digidol y Llyfrgell Genedlaethol a darganfod sut y gall eich rhan chi o stori Cymru gyfrannu at ddatblygu ein cof cenedlaethol trwy Gasgliad y Werin.
Cynhelir Dy Lyfrgell Di yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy, ddydd Gwener 25 Medi rhwng 1pm a 7pm. Mae mynediad yn rhad ac am ddim, ac mae croeso i bawb.
Categori: Newyddion
