Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cysylltu cymunedau â'r straeon, yr atgofion a'r casgliadau a gaiff eu cadw ar eu rhan, trwy daith Dy Lyfrgell Di, gan ysbrydoli pobl i'w darganfod, eu harchwilio a dod â nhw'n fyw mewn ffyrdd newydd a chreadigol.
Yn Abertawe, mae pobl ifanc ac oedolion lleol wedi archwilio deunydd archif i greu perfformiadau newydd wedi'u hysbrydoli gan streic y glowyr 1984-85, Copperopolis a threftadaeth ddiwydiannol gyfoethog yr ardal.
Mae'r perfformiadau wedi deillio o Snippets of Swansea, prosiect creadigol pedwar-diwrnod a gynhaliwyd ym mis Awst, a ddaeth â phobl ifanc ac oedolion ynghyd i archwilio hanes lleol gan ddefnyddio deunydd o Archif Ddarlledu Cymru a Llyfrgell Glowyr De Cymru. Bydd y perfformiadau newydd yma'n cael eu rhannu â'r cyhoedd yn rhan o'r digwyddiad Dy Lyfrgell Di ar 23 Medi, yn Llyfrgell Glowyr De Cymru, Abertawe.
Drwy rwydwaith o Gorneli Clip ledled Cymru, gall pobl gael mynediad at gasgliadau sgrin, sain ac archif o'r Llyfrgell Genedlaethol a'u harchwilio, gan ddarganfod straeon sy'n eu cysylltu â'u hanes lleol a stori ehangach Cymru.
Dywedodd Stacey Brown, Swyddog Ymgysylltu â'r Gymuned Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gyfer y gorllewin:
"Mae'r prosiect wedi’i gynllunio fel ffordd greadigol a hamddenol o roi cynnig ar rywbeth newydd, ond hefyd fel ffordd o wneud yr archif yn fwy hygyrch. Dywedodd y cyfranogwyr eu bod nhw i gyd wedi dysgu rhywbeth newydd ac yn teimlo cysylltiad cryfach â’u hanes lleol. Gyda phobl ifanc yn arbennig, mae cael mynediad at yr archif mewn ffordd greadigol yn gallu bod yn ffordd llawer mwy deniadol o ddysgu, ac rydym yn gobeithio y bydd yn eu hysbrydoli i ymchwilio ymhellach eu hunain."
Bydd gweithgareddau galw heibio, rhad ac am ddim, yn digwydd gydol y dydd, gan gynnwys cyfleoedd i archwilio Gwylio a Gwrando, Archif Darlledu Cymru, cwrdd â thîm Casgliad y Werin, chwilio Deiseb Heddwch Menywod Cymru a phrofi Ôl | Haunts, profiad realiti rhithwir trochol wedi'i ysbrydoli gan dreftadaeth ddiwylliannol a chasgliadau cyfoethog Cymru. Bydd staff a phartneriaid y Llyfrgell Genedlaethol wrth law drwy gydol y dydd i sgwrsio ag ymwelwyr, ateb cwestiynau a helpu pobl i ddarganfod y casgliadau, yr adnoddau digidol a'r gwasanaethau sydd ar gael drwy'r Llyfrgell.
Bydd ysgolion hefyd yn cymryd rhan mewn gweithdai arbennig yn archwilio treftadaeth a hanes Abertawe fel Copperopolis. Bydd rhaglen y nos yn cynnwys dangosiad cyntaf perfformiadau'r gymuned ochr yn ochr â sgyrsiau panel ac adloniant gan The Dulais Divas, ac ymddangosiad gan Mal Pope a Roger Bell a fydd yn cofio’r cyfnod y cafodd Bonnie Tyler ei ‘darganfod’ a’i blynyddoedd cynnar fel artist.
Dewch i ddarganfod straeon Abertawe, profi perfformiadau newydd wedi'u hysbrydoli gan hanes lleol ac archwilio'r casgliadau sy'n cysylltu cymunedau ledled Cymru. Yna cewch weld i ble y gall y straeon hynny eich tywys nesaf, trwy eich Cornel Clip lleol, casgliadau digidol y Llyfrgell Genedlaethol a darganfod sut y gall eich rhan chi o stori Cymru gyfrannu at ddatblygu ein cof cenedlaethol trwy Gasgliad y Werin.
Cynhelir Dy Lyfrgell Di yn Llyfrgell Glowyr De Cymru, Abertawe, ddydd Mercher 23 Medi rhwng 1pm a 7pm. Mae mynediad yn rhad ac am ddim, ac mae croeso i bawb.
Categori: Newyddion
