Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cysylltu cymunedau â'r straeon, yr atgofion a'r casgliadau a gaiff eu cadw ar eu rhan, trwy daith Dy Lyfrgell Di, gan ysbrydoli pobl i'w darganfod, eu harchwilio a dod â nhw'n fyw mewn ffyrdd newydd a chreadigol.
Ym Merthyr Tudful, bydd diwrnod i ddathlu'r cyfoeth o dreftadaeth ddiwydiannol, chwaraeon a chymdeithasol sydd gan y dref i'w chynnig, trwy gyfuniad o sgyrsiau, deunydd ffilm archif, perfformiadau, arddangosfeydd a gweithgareddau cymunedol.
Un o uchafbwyntiau'r digwyddiad fydd Oes Aur Bocsio ym Merthyr, a fydd yn archwilio sut y daeth ysgol focsio ym Mhenyddarren yn enwog ymhell y tu hwnt i Gymru ac yn gyfrifol am feithrin rhai o enwau mwyaf byd bocsio Prydain. Bydd deunydd ffilm archif, atgofion personol a straeon bocsio gan gynnwys Eddie Thomas, Howard Winstone a Johnny Owen yn dod â'r bennod hynod hon o hanes Merthyr yn fyw ac yn cael eu rhannu gyda'r cyhoedd fel rhan o ddigwyddiad Dy Lyfrgell Di ar 21 Medi yn Llyfrgell Merthyr Tudful.
Dywedodd Geraint Thomas, yr awdur a mab yr hyfforddwr bocsio chwedlonol Eddie Thomas:
"Eddie oedd ‘Tad’ bocsio Cymru. O’r hadau gafodd eu hau ym Mhenydarren, mae sawl cenhedlaeth o focswyr ifanc wedi tyfu - ac mae hynny’n dal i ddigwydd heddiw. Roedd yn gyfnod arbennig iawn i Ferthyr, i chwaraeon Cymru ac i chwaraeon Prydain"
Bydd Geraint Thomas yn ymuno â Wynford Jones, cyn ddyfarnwr a chyn-stiward, ysgrifennydd ac is-gadeirydd Bwrdd Rheoli Bocsio Prydain a Chymdeithas Cyn-Focswyr Cymru.
Yn ogystal â'r sesiwn focsio, bydd Rob Phillips o Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn arwain sesiwn Chwedl neu wirionedd? Dyma sgwrs yng nghwmni'r hanesydd lleol chris Parry, lle byddant yn archwilio hanes Merthyr Tudful trwy arteffactau hanesyddol, lluniau a deunydd archif i ddeall mwy am y straeon, y chwedlau a'r gwirioneddau sydd wedi siapio'r dref.
Dywedodd Rob Phillips, Archifydd gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Dwi’n gobeithio y bydd pobl yn mynd adref wedi dysgu rhywbeth newydd am eu bro, am bwysigrwydd Merthyr i Gymru ac yn rhyngwladol, ac wedi’u hysbrydoli drwy weld a chyffwrdd â dogfennau gwreiddiol sy’n dweud y stori.”
Bydd gweithgareddau galw heibio, rhad ac am ddim, yn digwydd gydol y dydd, gan gynnwys cyfleoedd i archwilio Gwylio a Gwrando, Archif Darlledu Cymru, cwrdd â thîm Casgliad y Werin, chwilio Deiseb Heddwch Menywod Cymru a phrofi Ôl | Haunts, profiad realiti rhithwir trochol wedi'i ysbrydoli gan dreftadaeth ddiwylliannol a chasgliadau cyfoethog Cymru. Bydd staff a phartneriaid y Llyfrgell Genedlaethol wrth law drwy gydol y dydd i sgwrsio ag ymwelwyr, ateb cwestiynau a helpu pobl i ddarganfod y casgliadau, yr adnoddau digidol a'r gwasanaethau sydd ar gael drwy'r Llyfrgell.
Bydd ysgolion hefyd yn cymryd rhan mewn sesiynau pwrpasol, tra gall ymwelwyr fwynhau lluniaeth, adloniant lleol gan gôr Merthyr Aloud, a chyfleoedd i ymgysylltu â straeon sydd wedi helpu i lunio Merthyr Tudful a Chymru.
Dewch i ddarganfod straeon Merthyr Tudful, profi perfformiad gan gôr cymunedol Merthyr Aloud ac archwilio'r casgliadau sy'n cysylltu cymunedau ledled Cymru. Yna cewch weld i ble y gall y straeon hynny eich tywys nesaf, trwy eich Cornel Clip lleol, casgliadau digidol y Llyfrgell Genedlaethol a darganfod sut y gall eich rhan chi o stori Cymru gyfrannu at ddatblygu ein cof cenedlaethol trwy Gasgliad y Werin.
Cynhelir Dy Lyfrgell Di yn Llyfrgell Merthyr Tudful, ddydd Llun 21 Medi rhwng 1pm a 7pm. Mae mynediad yn rhad ac am ddim, ac mae croeso i bawb.
Categori: Newyddion
