Symud i'r prif gynnwys
Sceenshot of Culture and Climate Cymru website

19 Awst 2026

Rydym yn falch iawn o lansio gwefan a llwyfan rhwydweithio newydd sbon, Diwylliant a Hinsawdd Cymru, menter rhwydweithio sy’n dod â sectorau diwylliant a threftadaeth Cymru at ei gilydd i weithredu ar newid hinsawdd a natur trwy ddiwylliant.

Mewn digwyddiad rhwydweithio ar faes yr Eisteddfod, a gynhaliwyd ar stondin Llywodraeth Cymru, cafodd y wefan newydd, wedi’i ddatblygu fel rhan o Raglen Argyfwng Hinsawdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Nod Diwylliant a Hinsawdd Cymru yw cefnogi unigolion a sefydliadau ar draws y sector i gydweithio i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae'n darparu mynediad at wybodaeth ac adnoddau hyfforddi, digwyddiadau, astudiaethau achos, a gofod fforwm ar-lein i rannu syniadau a chydweithio.  

Wedi'i ddatblygu mewn ymateb i argymhelliad adroddiad ymchwil Llywodraeth Cymru i'r sector diwylliant yng Nghymru a'r argyfyngau hinsawdd a natur(yn agor mewn tab newydd), mae'n cefnogi cyflawni Uchelgais 16 o Flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwylliant.

Meddai Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

"Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru rôl bwysig i'w chwarae wrth sicrhau ein bod yn darparu mynediad teg at adnoddau, a hyrwyddo llythrennedd gwybodaeth er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at wybodaeth gywir y gallant ymddiried ynddi am newid yn yr hinsawdd.  

Mae yna hefyd gymaint o wybodaeth, hanes a threftadaeth anniriaethol a all ein helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur yn ein casgliadau. Felly, mae gweithredu hinsawdd yn cyd-fynd â'n cenhadaeth graidd i ddiogelu, ehangu a datblygu'r casgliadau, a galluogi pobl i fwynhau a gwerthfawrogi'r cynnwys."

Dywedodd Judith Musker Turner, Arweinydd y Rhaglen Gweithredu Hinsawdd:  

"Bydd Diwylliant a Hinsawdd Cymru yn ei gwneud hi'n haws i bobl sy'n gweithio yn y sectorau diwylliant a threftadaeth gymryd camau ar y cyd i ddiogelu diwylliant a threftadaeth Cymru rhag newid yn yr hinsawdd a bydd yn codi proffil yr holl waith rhagorol sydd eisoes yn cael ei wneud. Mae gan y sector diwylliant bŵer unigryw i ysbrydoli newid ac i ddod â phobl at ei gilydd, ac mae'n bwysig bod hyn yn cael ei gydnabod yn ehangach."  

Fel sefydliad blaenllaw ym maes cynaliadwyedd amgylcheddol, gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gweithio tuag at y nod o fod yn garbon niwtral erbyn 2028 a dileu'r defnydd o nwy yn llwyr a lleihau allyriadau carbon.  

Yn ddiweddar, ennillodd y Llyfrgell wobr am drawsnewid ei hystâd hanesyddol trwy raglen ôl-ffitio uchelgeisiol sy'n lleihau ei hôl troed carbon yn sylweddol wrth sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy. Roedd y mesurau yn cynnwys gosod technolegau arloesol fel pympiau gwres aer a daear, 1,622 o baneli solar, a gweithredu system rheoli adeiladau deallus i wella effeithlonrwydd ynni.

Yn ogystal â sefydlu rhwydwaith Diwylliant a Hinsawdd Cymru, mae'r Rhaglen Gweithredu Hinsawdd yn cefnogi  

  • prosiect peilot i helpu 3 sefydliad diwylliannol sydd wedi'u lleoli mewn adeiladau hanesyddol i ddatblygu cynlluniau datgarboneiddio
  • rhaglen hyfforddi i gefnogi'r gweithlu diwylliannol i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i weithredu yn yr hinsawdd
  • cyfleoedd i bobl sy'n gweithio ym maes diwylliant a threftadaeth yng Nghymru rannu dysgu ac arfer gorau ar yr hinsawdd gyda chydweithwyr o bob cwr o'r DU.

Ewch i'r wefan i ddarganfod mwy, ymunwch â'r fforwm a chofrestrwch i'r cylchlythyr i glywed am y datblygiadau diweddaraf.  

 

Categori: Newyddion