Mae’r Haf wedi hedfan heibio! – mi fydd plant yn dychwelyd i’w hysgolion ar gyfer blwyddyn academaidd newydd ar ddechrau mis Medi. Ceir amrywiaeth o gyhoeddiadau ar thema ysgolion o bob math yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae’r cyhoeddiadau yn cynnwys llyfrau hanes, cyfrolau o waith disgyblion, llyfrau stori ar gyfer plant ac arolygiadau o ysgolion Cymru. Mae’r llun cyntaf yn cynnwys llyfr sydd yn rhoi hanes Ysgol Gymraeg Llundain a llyfr coginio gan Ysgol y Cwm, Trevelin ym Mhatagonia. Mae’n wych fod plant yn medru cael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg er eu bod nhw yn byw mor bell o Gymru.
Gwelir llyfr yn y llun sy’n rhoi hanes Ysgol Glanaethwy, sydd yn ysgol berfformio a llyfr am hanes yr ysgolion Sul yng Nghymru rhwng 1780-1851. Cerddi gan blant o ysgolion Powys yw’r llyfr “Dyma Fy Mhowys” ac mae’r cyhoeddiad “Llyfr Ysgol y Dderi” yn cynnwys cerddi, straeon byrion a lluniau gan y disgyblion.
Eleni mae Ysgol y Dderi, Llangybi wedi dathlu 50 mlynedd ers cael ei sefydlu. Caewyd 5 o ysgolion cynradd gwledig ym mhentrefi Llangybi, Betws Bledrws, Silian, Cellan a Llanfair Clydogau yn 1976. Mi drosglwyddwyd y disgyblion i’r Ysgol newydd fodern yn Llangybi [mae plant o Llwynygroes hefyd yn mynychu Ysgol y Dderi oherwydd bod Ysgol Gartheli wedi cau yn 1984]. Ffilmiwyd rhaglen ddogfen ddiddorol iawn yng nghanol y 1970au o’r enw "Ysgol y Dderi: Hanes Ysgol Bro = The Story of an Area School". Dangosir y disgyblion yn y 5 ysgol ac yna yn eu hysgol ardal newydd, ac mae’r rhaglen yn rhoi cipolwg hyfryd o fywyd gwledig ac addysg yng nghefn gwlad Ceredigion tua hanner canrif yn ôl.
Yn yr ail lun (uchod) gwelir 8 llyfr a gyhoeddwyd gan ysgolion unigol pan ‘roeddent yn dathlu cerrig milltir gwahanol – yn amrywio rhwng 25 mlynedd a 400 mlynedd. Yng Nghymru mae rhai ysgolion wedi cau am byth, rhai wedi newid eu henw ac eraill wedi symud i adeilad arall. Mae dogfennu hanes ysgolion unigol ar hyd y blynyddoedd yn golygu y bydd yna wybodaeth amdanynt ar gof a chadw. Mae llyfrau sydd yn edrych yn ôl ar hanes ysgolion yn medru bod yn ddiddorol iawn, yn enwedig os ydynt yn cynnwys lluniau amrywiol a dynnwyd dros y blynyddoedd ac atgofion gan gyn-ddisgyblion. Mae llyfr dathlu 40 oed Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr yn cynnwys atgofion difyr gan ddau actor enwog o Gymru, sef Gaynor Morgan Rees ac Ieuan Rhys.
Gwelir amrywiaeth o lyfrau stori sydd wedi cael eu lleoli mewn ysgolion yn y trydydd llun (uchod). Yn eu plith mae yna lyfrau am Ysgol y Defaid, Ysgol Goedwig ac Ysgol Swynion ac mae yna lyfr i blant bach iawn am Gwenno Gwningen yn mynd i’r Ysgol Feithrin. Mae yna lyfrau hefyd am y cymeriadau annwyl Cyw ac Alun yr Arth yn mynychu eu hysgolion. Mae ysgolion cynradd ac uwchradd yn bwysig iawn ym mywydau plant gan eu bod yn rhoi cyfle iddynt i ddysgu, ehangu eu gwybodaeth, gwneud ffrindiau mynwesol a datblygu diddordeb gydol oes mewn darllen a llyfrau.
