Eleni, rydym yn nodi carreg filltir arbennig iawn, 850 mlynedd ers yr Eisteddfod gyntaf a gynhaliwyd gan Arglwydd Rhys yng Nghastell Aberteifi yn 1176.
Wyth can mlynedd a hanner yn ddiweddarach, mae'r Eisteddfod yn llawer mwy na gŵyl. Mae'n ddathliad byw o bwy ydym ni fel cenedl, ein hiaith, ein creadigrwydd, ein talent a'n hyder.
I helpu ysgolion a lleoliadau addysg i ddathlu’r achlysur hanesyddol hwn, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi datblygu adnodd dysgu cyffrous u yn gwahodd dysgwyr i archwilio'r daith ryfeddol hon drwy gyfoeth o ffynonellau hanesyddol dibynadwy o gasgliadau cenedlaethol Cymru. Trwy ddarganfod straeon, delweddau a dogfennau unigryw, gall dysgwyr weld sut mae'r Eisteddfod wedi helpu i lunio ein hunaniaeth a'n gwerthoedd dros y canrifoedd.
Mae'r adnodd yn cysylltu'n naturiol â Chwricwlwm i Gymru, gan gefnogi dysgwyr i ddeall eu cynefin, gwerthfawrogi eu treftadaeth, a datblygu fel dinasyddion gwybodus, creadigol ac uchelgeisiol. Mae hefyd yn dangos bod diwylliant yn rhywbeth sy'n perthyn i bawb, nid rhywbeth i'w astudio yn unig, ond rhywbeth i'w brofi, ei greu a'i fwynhau.
Felly, ymunwch â ni i ddathlu 850 mlynedd o gystadlu, creadigrwydd a chymuned, a diolch i weledigaeth yr Arglwydd Rhys, sydd wedi gadael etifeddiaeth sy'n dal i ysbrydoli Cymru heddiw. Mae’r adnodd yn addas ar gyfer amrywiaeth o oedrannau ac yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ddatblygu dealltwriaeth o hanes, hunaniaeth a threftadaeth Cymru.
Categori: Newyddion
