Mae gan dri o’r un ar bymtheg o lyfrau sydd ar y ddwy restr fer ar gyfer Gwobr Yoto Carnegie 2024 gysylltiadau cryf â Chymru. O’r wyth llyfr sydd yn y rhestr fer ar gyfer ysgrifenwyr, mae Nicola Davies, awdures Choose Love yn Gymraes ac mae Zillah Bethell, awdures The Song Walker yn byw yng Nghymru. Cyhoeddwyd un o’r wyth llyfr sydd ar y ‘restr fer am Ddarlunio’, sef April’s Garden gan Catalina Echeverri, ei gyhoeddi gan Graffeg. Lleolir Graffeg yn Llanelli.
Mae’r tri llyfr ar gael i’w harchebu yn ein hystafell ddarllen yn y Llyfrgell. Rhoddir crynodeb ohonynt isod:
Gardd Gwenno gan Catalina Echeverri
Thema'r stori yw dadleoli a'r holl straen a gofid mae hynny'n ei olygu i Gwenno a'i mam. Darlunnir taith y fam a'r plentyn yn weledol. Mae’r darluniau’n bwerus, a defnyddir lliw yn aml i adlewyrchu naws ac emosiynau’r cymeriadau.
Choose Love gan Nicola Davies
Mae'r llyfr yn cynnwys cerddi am bobl yn gadael popeth sy'n gyfarwydd iddynt i geisio diogelwch a lloches mewn gwledydd eraill. Mae'r cerddi'n canolbwyntio ar themâu gadael, cyrraedd, ac iachâd. Mae’r rhain yn cael eu cydnabod fel prif rannau taith ffoadur. Mae’r cerddi’n ceisio atgoffa’r darllenydd bod ffoaduriaid yn bobl real, gyda straeon go iawn ac amrywiaeth o safbwyntiau ar fywyd.
The Song Walker gan Zillah Bethell
Mae Tarni yn cwrdd â merch o'r ddinas yn y cefnwlad wrth iddi deithio'n ddirgel i ddod o hyd i'w chwaer. Pwy yw'r ferch hon ac o ble mae hi wedi dod? Mae'r ddau yn cychwyn ar daith epig. Mae hunaniaeth y ferch yn cael ei ddatgelu’n araf wrth i stori cyfeillgarwch ac ysbrydolrwydd y pâr ddatblygu.
I ddarganfod rhagor am Wobrau Yoto Carnegie 2024, ewch i'w gwefan.
Cyhoeddir Medal 2024 ac Enillwyr Gwobr Dewis y Cysgodwyr trwy seremoni ffrydio byw ar 20 Mehefin. Mae hyn yn rhoi digon o amser i chi fel darllenwyr farnu os yw un o'r tri llyfr hyn yn haeddu ennill y wobr gyntaf!
Categori: Erthygl