Symud i'r prif gynnwys
Cychlythyr Gwirfoddolwyr

8 Medi 2026

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi rhifyn diweddaraf Cylchlythyr y Gwirfoddolwyr, sy'n dathlu cyflawniadau, profiadau a chyfraniadau gwirfoddolwyr y Llyfrgell.

Mae'r cylchlythyr yn cael ei ysgrifennu a'i olygu gan aelodau o gymuned wirfoddol y Llyfrgell. Mae'n arddangos yr amrywiaeth eang o waith y mae gwirfoddolwyr yn ei gyflawni, gan dynnu sylw ar yr un pryd at yr ymdeimlad cryf o gymuned sy'n bodoli yma yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae'r rhifyn hwn yn cynnwys newyddion, straeon a myfyrdodau gan wirfoddolwyr, gan roi cipolwg ar y cyfraniad gwerthfawr y maent yn ei wneud i gefnogi casgliadau, gwasanaethau a gweithgareddau ymgysylltu cyhoeddus y Llyfrgell.

Hoffai'r Llyfrgell ddiolch yn arbennig i Rhys Davies, Julian Evans, a phawb arall a gyfrannodd at y rhifyn hwn.

Gallwch ddarllen y rhifyn diweddaraf yma: https://www.llyfrgell.cymru/fileadmin/docs_gwefan/amdanom_ni/gwirfoddoli/Rhifyn_23_CYM.pdf

Dod yn Wirfoddolwr

Mae gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad hollbwysig at waith Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gan ein helpu i ddiogelu, dehongli a rhannu treftadaeth y genedl â chynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'n cymuned gyfeillgar o wirfoddolwyr, datblygu sgiliau newydd a chefnogi gwaith y Llyfrgell, byddem yn falch iawn o glywed gennych.

I gael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac am sut i gymryd rhan, ewch i: https://www.llyfrgell.cymru/am-llgc/gweithio-gyda-ni/gwirfoddoli
 

Categori: Newyddion