Symud i'r prif gynnwys
Readers in the Library's Reading Room

2 Tachwedd 2023

Tachwedd 2 yw Diwrnod Cadwedigaeth Ddigidol y Byd, digwyddiad blynyddol sydd wedi’i arwain gan Glymblaid Cadwedigaeth Ddigidol i ddathlu’r gwaith cydweithredol sy’n cael ei wneud yn fyd-eang i sicrhau bod cynnwys digidol ar gael i’w defnyddio yn y presennol a’r dyfodol. Thema eleni yw Cadwedigaeth Ddigidol: Ymdrech ar y Cyd, sy’n cyd-fynd yn arbennig â’n gweithgareddau yng Nghymru. Fel gwlad fach a chlyfar rydym wedi hen arfer gwneud ymdrechion ar y cyd er lles pawb, a adlewyrchir yn arbennig yn ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r Ddeddf hon yn unigryw i Gymru ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau a gweithio ar y cyd. Rydym yn sicr wedi cwrdd â gofynion y Ddeddf yng nghyd-destun cadwedigaeth ddigidol, gan ddylanwadu ar benderfyniadau drwy greu polisi cenedlaethol sy’n eiriol dros fuddsoddi, datblygu sgiliau a thrwy lawer o fentrau cydweithredol.

Cydnabuwyd llwyddiant ein gwaith eirioli wrth i ni dderbyn Gwobr Rhwydwaith Treftadaeth Ddigidol yr Iseldiroedd yn 2022 ar gyfer Addysg a Chyfathrebu. Mae cydweithio a throsglwyddo gwybodaeth wedi bod yn allweddol i’n llwyddiant. Enghraifft dda o effaith ein hymdrech ar y cyd yw prosiect Kickstart Cymru. Ariannwyd y fenter hon gan Lywodraeth Cymru gyda’r nod o ddarparu’r caledwedd a’r meddalwedd angenrheidiol (y Bwndeli) a hyfforddiant i swyddfeydd cofnodion cyhoeddus yng Nghymru i ymgymryd â thasgau sylfaenol wrth gyrchu cofnodion digidol. Mae fideos cysylltiedig, cyflwyniadau PowerPoint a dogfennaeth bellach ar gael ar becyn cymorth staff Diogelu’r Didau Archifau Cymru.

Mae’r Llyfrgell hefyd yn datblygu ei llifoedd gwaith ei hun trwy weithio gydag adneuwyr i sicrhau nad yw’r broses gyflwyno yn rhy feichus, ond yn bodloni gofyniad y Llyfrgell i alluogi amlyncu cynnwys dibynadwy a chadwadwy. Mae gwerth yr ymdrech ar y cyd hwn wedi’i ddangos yng nghyhoeddiad diweddar y casgliad the Phonology of Rhondda Valleys, sydd ar gael drwy gatalog Atom. Mae’n cynnwys ymchwil am yr acen Saesneg yng Nghymoedd Rhondda, De Cymru. Mae’n gasgliad cymhleth sy’n cynnwys cyfweliadau ag aelodau o Glybiau’r Gweithwyr yng nghymunedau’r Cymoedd, recordiadau sain mp3 a ffeiliau PDF aml-dudalen o drawsgrifiadau. Roedd darparu mynediad i gasgliadau yn golygu ymwneud â nifer o faterion technegol a hawliau, na ellid eu datrys ond trwy ymdrech gyfunol yr adneuwr, yr archifydd derbyniad digidol, datblygwr Archivematica a llu o rai eraill, sy’n dangos bod cadwedigaeth ddigidol yn wir yn ymdrech ar y cyd!

Sally McInnes Pennaeth

Cynnwys Unigryw a Chyfoes

Categori: Erthygl