Yr wythnos hon, rydym yn ymuno â sefydliadau ledled y DU i ddathlu Wythnos Genedlaethol yr Ymddiriedolwyr - amser i gydnabod a diolch i'r unigolion anhygoel sy'n rhoi eu hamser, eu harbenigedd a'u hangerdd i gefnogi'r Llyfrgell.
Mae eu hymrwymiad yn cryfhau arweinyddiaeth y Llyfrgell a sicrhau ei llwyddiant parhaus wrth gasglu, cadw a rhannu treftadaeth ddiwylliannol Cymru.
Dyma beth sydd gan rai o'n hymddiriedolwyr i'w ddweud am eu profiad:
“Mae'n fraint gwasanaethu fel ymddiriedolwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ystod cyfnod mor ddeinamig o newid, twf ac adnewyddu yn y sefydliad. Mae bod yn rhan o daith y Llyfrgell—helpu i lunio penderfyniadau sy'n cyffwrdd â phob cornel o'i gwaith, o addysg a gweinyddiaeth i amrywedd a chydraddoldeb — wedi bod yn werthfawr iawn.
Rwy'n teimlo cysylltiad personol cryf â chenhadaeth y Llyfrgell i ddathlu a hyrwyddo'r iaith a diwylliant Cymru, ac rwy'n gobeithio parhau i chwarae rhan yn yr ymdrech honno. Mae gweld Aberystwyth yn cael ei chydnabod yn ddiweddar fel Dinas Llenyddiaeth UNESCO wedi bod yn atgof gwych o'r hyn y gallwn ei gyflawni gyda'n gilydd, ac ni allaf aros i ddathlu mwy o fuddugoliaethau yn y blynyddoedd i ddod.”
“Mae gwirfoddoli fel ymddiriedolwr y Llyfrgell Genedlaethol yn un o freintiau mawr fy mywyd. Rwyf wrth fy modd yn gweithio ochr yn ochr â staff, gwirfoddolwyr a defnyddwyr gwych y Llyfrgell i amddiffyn y cartref unigryw hwn o iaith, diwylliant a threftadaeth Cymru. Yn fwy na hynny, rwyf wrth fy modd ar ffaith fy mod yn cael helpu'r Llyfrgell i ffynnu. Beth bynnag yw eich cefndir a'ch sgiliau, bydd elusen wrth eich ymyl sydd wir angen chi fel ymddiriedolwr. Ceisiwch ddod o hyd iddyn nhw - ac rwyf yn gobeithio y byddwch yn gweld y profiad mor werth chweil ac y mae bod yn ymddiriedolwr i’r Llyfrgell wedi bod i mi.”
“Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn agos at fy nghalon – wedi i mi astudio a gweithio yno, felly mae’n wych gallu rhoi rhywbeth yn ôl fel ymddiriedolwr ar adeg mor gyffrous, gyda chymaint o gyfleoedd i ysbrydoli a chefnogi cenedlaethau’r dyfodol.”
Rydym yn ddiolchgar iawn i'n holl ymddiriedolwyr am eu hymrwymiad a'u gweledigaeth. Maent yn helpu i sicrhau bod y Llyfrgell yn parhau i fod yn sefydliad bywiog, cynhwysol a blaengar i Gymru a'r byd.
Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan eu geiriau, cadwch lygad am gyfleoedd yn y dyfodol i ddod yn ymddiriedolwr i'r Llyfrgell. Gallai eich sgiliau a'ch angerdd helpu i lunio pennod nesaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
