Symud i'r prif gynnwys
Camwch i fyd Kyffin

22 Hydref 2026

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gwahodd ymwelwyr i gamu i mewn i baentiadau un o artistiaid mwyaf nodedig Cymru, Kyffin Williams. Mae ei fynyddoedd, ei ffermydd mynydd a'i gŵn defaid yn helpu i ddiffinio ymdeimlad cenedlaethol o le. Mae Profiad Kyffin Experience, yn agor i'r cyhoedd o Ddydd Mercher 18 Tachwedd. 

Bydd tocynnau ar gael i'w harchebu Ddydd Llun 2 Tachwedd ar sail y cyntaf i'r felin. Gan fod galw am docynnau i’r Profiad, sydd am ddim, mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn annog pobl i gofrestru i'w chylchlythyr er mwyn osgoi cael eu siomi. Bydd tanysgrifwyr yn derbyn manylion llawn am y tocynnau, gan gynnwys gwybodaeth am sesiynau rhagolwg, yn uniongyrchol i'w mewnflwch i'w helpu i sicrhau'r tocynnau maen nhw’n eu dymuno. 

Nid arddangosfa draddodiadol mo Profiad Kyffin Experience – mae'n cyfuno technoleg weledol arloesol, a gaiff ei chysylltu fel arfer â sioeau trochol enfawr tebyg i brofiadau Van Gogh a Cézanne, gyda straeon rhyngweithiol a gweithiau ac eitemau gwreiddiol o archif Kyffin. 

Wedi'i defnyddio am y tro cyntaf ar gyfer artist poblogaidd o Gymru, mae hon yn daith drochol newydd sbon i fyd Kyffin, sy’n rhad ac am ddim, ac sy’n para am 30 munud. Caiff ei mapio, ei chreu a'i thaflunio’n ddigidol o amgylch ymwelwyr ar ffurf celf, sain a golau. Mae'r dechnoleg, a ddatblygwyd gan bartneriaid creadigol Focal Studios a Leo & Hyde, yn cyfleu gwead a chymeriad pob strôc o’i frwsh. 

Gyda technegau wedi’i defnyddio am y tro cyntaf ar gyfer artist o Gymru, mae hon yn daith ymdrochol unigryw i fyd Kyffin Williams. Dros 30 munud, bydd ymwelwyr yn cael eu hamgylchynu gan gelf, sain a golau mewn profiad rhad ac am ddim sy’n dod â’i waith yn fyw o’u cwmpas. Wedi’i greu gan Focal Studios a Leo & Hyde, mae’r dechnoleg yn cyfleu gwead a chymeriad pob strôc o’i frwsh,

Caiff Syr Kyffin Williams (1918–2006) ei ystyried fel arlunydd Cymreig amlycaf yr 20fed ganrif. Cafodd ei eni yn Llangefni, Ynys Môn, a’i hyfforddi yn Ysgol Gelf Slade cyn dychwelyd i Gymru, lle dreuliodd ei yrfa yn paentio ei thirlun a’i phobl, yn aml yn yr awyr agored, gyda chyllell palet. Roedd ei bynciau’n amrywio o fôr a mynyddoedd Ynys Môn i gŵn defaid ffermydd mynydd Cymru. Cafodd ei urddo'n farchog ym 1999. Ar ei farwolaeth yn 2006 gadawodd ei ystâd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd bellach yn dal y casgliad mwyaf o'i waith yn y byd.

Meddai Carys Ifan, Cyfarwyddwr Profiad: "Gadawodd Kyffin Williams y rhan fwyaf o'i waith oes i'r Llyfrgell Genedlaethol fel rhodd i'r genedl. Mae'r profiad newydd uchelgeisiol hwn yn ddathliad o'r casgliad rhyfeddol hwnnw ac yn ffordd newydd, feiddgar o'i rannu â chynulleidfaoedd heddiw. 

“Drwy wahodd ymwelwyr ar daith greadigol, drochol ac ymarferol drwy fyd Kyffin, rydyn ni’n gobeithio ysbrydoli teuluoedd a denu cynulleidfaoedd newydd i ddarganfod nid yn unig ei gelf, ond hefyd y cyfoeth o straeon, casgliadau, arddangosfeydd a phrofiadau sy'n gwneud y Llyfrgell Genedlaethol yn lle mor arbennig i ymweld ag ef. Archebwch eich tocynnau a byddwch yn barod i gael eich syfrdanu!”

Mae golygfeydd gwledig, morluniau ac anifeiliaid Syr Kyffin yn gwneud y profiad cwbl ddwyieithog newydd sbon hwn yn addas i deuluoedd ac ymwelwyr iau yn ogystal ag edmygwyr hirsefydlog o waith yr artist. Mae hefyd yn cynnig diwrnod allan perffaith, gyda glan môr, y castell a chynnig diwylliannol ehangach Aberystwyth, gan gynnwys dynodiad diweddar y dref fel Dinas Llên UNESCO gyntaf Cymru.

Mae'r profiad yn bosibl diolch i’r prif gyllid gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston. Meddai ei sylfaenydd a'i chadeirydd Mathew Prichard CBE: 

“Mae Ymddiriedolaeth Colwinston yn falch iawn o ddathlu 30 mlynedd o gydweithio â nifer o sefydliadau celfyddydol blaenllaw ledled y DU, trwy ddyfarnu Grant Pen-blwydd arbennig i gefnogi'r profiad trochol hwn sy'n dathlu Kyffin yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru eleni.

“Rydym wrth ein bodd yn cefnogi'r profiad trochol nodedig hwn yng Nghymru, yn y sefydliad lle ymddiriedodd Kyffin ei waith oes. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, teimlwn mai dyma'r amser iawn i helpu cenhedlaeth newydd i ddarganfod a mwynhau gwaith yr arlunydd Cymreig gwych hwn.”
Mae'r profiad hefyd yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a Chyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae Profiad Kyffin Experience yn agor i'r cyhoedd o ddydd Mercher 18 Tachwedd 2026

Gellir archebu tocynnau o ddydd Llun 2 Tachwedd.

Am fanylion llawn, ac er mwyn osgoi cael eich siomi, tanysgrifiwch i Gylchlythyr y Llyfrgell Genedlaethol: https://www.llyfrgell.cymru/am-llgc/amdanom-ni/dilynwch-ni