Symud i'r prif gynnwys
A screenshot of a Jerry the Tyke animation, showing three 'Jerrys', two looking back at one who has a speech bubble that reads 'Excuse me, but I'M Jerry!'.

Ysgrifennwyd gan Nia Edwards-Behi

12 Rhagfyr 2025

100 mlynedd yn ôl, ym 1925, buodd dau ddigwyddodd arwyddocaol yn hanes ffilm Cymru: bu farw'r arloeswr William Haggar, a 'ganwyd' ffigwr blaengar Jerry the Tyke. Yn y blog hwn, byddwn yn edrych ar arwyddocâd Haggar a Jerry i hanes sinema yng Nghymru, a thu hwnt.

Ganwyd William Haggar yn Essex ym 1851 a, thrwy blentyndod anodd ond creadigol, sefydlodd gwmni theatr teithiol erbyn ei fod yn 20 oed. Symudodd Haggar gyda'r cwmni ar draws y DU ond ymsefydlodd yng Nghymru, lle cafodd dyrfaoedd brwdfrydig ac awchus.

Yn fuan iawn, gan gynnwys y dechnoleg gymharol newydd o daflunio ffilm yn ei sioe deithiol, roedd sinema deithiol Haggar, The Bioscope, yn hynod boblogaidd yn ffeiriau de Cymru. Er mwyn llenwi ei sioeau ffilm, dechreuodd Haggar wneud ffilmiau ei hun yn naturiol iawn. Roedd aelodau teulu Haggar i gyd yn rhan o'i gwmni stoc, a roddodd fantais iddo dros wneuthurwyr ffilmiau cynnar eraill nad oedd ganddynt o reidrwydd actorion wrth law.

Roedd ffilmiau Haggar yn aml yn cynnwys trais a hiwmor, er mawr bleser i'w gynulleidfaoedd, gan adeiladu ar ei gefndir yn y theatr, a oedd yn aml yn grand-guignolesque. Gwnaeth Haggar fwy na 30 o ffilmiau sy’n wybyddus i ni, a dosbarthwyd llawer ohonynt ledled y DU gan British Gaumont. Yn anffodus, dim ond llond llaw sydd wedi goroesi hyd heddiw, ac rydym yn ffodus i fod yn warcheidwaid iddynt. Gellir gweld tair ar y BFI Player:

The Bathers' Revenge (1904)

Revenge! (1904) 

The Sheep Stealer (1908) 

Mae hefyd gyda ni gopïau 35mm o A Desperate Poaching Affray (1903) a The Life of Charles Peace (1905) diolch i’r BFI, a chopi SVHS copy o’r darn byr sydd dal i oroesi o A Message from the Sea (1905), ’sydd ar gael i’w gwylio ar wefan Casgliad y Werin.

Yn ddiweddarach, aeth Haggar ymlaen i fod yn berchennog cadwyn o sinemâu yn Llanelli, Pontarddulais, Castell-nedd, Aberpennar a Phenfro. Bu farw ym 1925, ond byddai aelodau profiadol o’i deulu yn parhau â’i etifeddiaeth: gwnaeth ei feibion ​​James a William Jnr. eu ffilmiau eu hunain, fel y ffilm ‘topical’ o Lanelli The Shop Assistants Outing to Ilfracombe (1913), y mae darn ohoni wedi goroesi; a Love Story of Ann Thomas, the Maid of Cefn Ydfa (1914), a oedd wedi’i hystyried yn ffilm goll ar un adeg.

Tra bod un o sêr cynnar sinema Cymru wedi pylu ym 1925, felly ganwyd un arall: cynhyrchwyd y ci animeiddiedig Jerry the Troublesome Tyke gyntaf ym 1925, mewn cymysgedd o actio byw ac animeiddio. Crëwyd Jerry gan yr animeiddiwr Sid Griffiths a'r ffotograffydd Bert Bilby, a oedd ill dau yn gweithio fel taflunwyr yn Sinema’r Capitol Caerdydd.

Gwnaethant ffilmiau byrion animeiddiedig rhwng 1925 a 1927, a ddangoswyd ledled y byd fel rhan o Pathé Pictorial, cylchgrawn newyddion sinema pythefnosol. Parhaodd pob ffilm fer fud am tua phedair munud ac yn aml roedd Griffiths ei hun yn rhyngweithio â Jerry ynddynt, er bod Jerry bob amser yn aros ar y dudalen a luniwyd.

Mae Jerry yn cael ei gydnabod fel y gyfres animeiddiedig gyntaf a wnaed yng Nghymru, ac fe ddaeth i'r amlwg ar adeg pan oedd gan gwmnïau ffilm aml cymeriad animeiddiedig nodweddiadol eu hunain, fel Mickey Mouse ar gyfer Walt Disney Studios a Felix the Cat ar gyfer Paramount Pictures – ac felly roedd Jerry yn cynrychioli Pathé News.

Mae bob un o’r 42 ffilm Troublesome Tyke are gael i’w gwylio ar wefan British Pathé, gan gynnwys y rhifyn gyntaf un, a oedd yn rhan o Pathe Pictorial 382, Gorffennaf 27ain 1925.

Yn y ffilm gyntaf, cawn weld ‘genedigaeth’ Jerry – dilyniant creadigol lle mae pen a phot inc yn dod â Jerry yn fyw. Yna mae Sid yn mynnu bod Jerry yn dysgu marchogaeth ceffyl er mwyn iddo allu ennill contract Pathé, proses sy’n dreisgar ac yn ddoniol, gan sefydlu’r ymdeimlad o ddrygioni y bydd Jerry yn parhau i’w ymgorffori.

Yn gyffredin i Jerry a ffilmiau William Haggar - yn ogystal â’u statws arloesol - yw’r drygioni a’r gwyrdroi a geir yn aml mewn sinema gynnar, yn enwedig bychanu unrhyw ffigwr awdurdodol canfyddedig. Byddai’r ymdeimlad llethol hwn o feiddgarwch yn cael ei ddal yn fuan gan syniadau cynyddol am ansawdd a blas da mewn sinema, ac mewn cyfnod o hegemoni diwylliannol cynyddol mae gallu edrych yn ôl ar amharchusrwydd a beiddgarwch yr arloeswyr hyn yn bwysicach fyth.

 

Cyfeiriadau

David Berry, Wales and Cinema: The First Hundred Years, 1994

Peter Yorke, William Haggar Fairground Film Maker: Biography of a pioneer of the cinema, 2007

Categori: Erthygl