Symud i'r prif gynnwys
Rhan o fap degwm Mathri

3 Gorffennaf 2023

Gorchwyl dymunol iawn gefais fel gwirfoddolwr yn ddiweddar, sef gwrando ar recordiau o Ben Bach yn canu caneuon gwerin a cheisio eu trawsgrifio.  Brodor o Fathri yn Sir Benfro oedd Ben – Ben Phillips i roi ei enw iawn iddo, ond fel ‘Ben Bach’ oedd yn cael ei adnabod.  Roedd ganddo lais hyfryd a chlir ac yn canu yn nhafodiaith Sir Benfro ac yn enwog, mae’n debyg, am fynd i dipyn o hwyl gyda’i gynulleidfa.

Roedd angen cadw’r dafodiaith wrth drawsgrifio, oedd yn her ar adegau – ambell i ‘ddishgled o dê’ a ‘dwêd da thre’.  Tua deg ar hugain o ganeuon – un fach hyfryd am y gwcw oedd yn hir yn cyrraedd – “oerwynt y gaeaf a’m cadwodd yn ôl”;   fersiwn Gymraeg o ‘Deuddeg Dydd o’r Gwyliau’ (‘The Twelve Days of Christmas’); rhai caneuon trist, rhai doniol, caneuon serch ac ambell i faled.  Roeddwn mewn ffitie o chwerthin wrth wrando ar ‘Y Ladi Fowr Benfelen’ gyda’i double entendres amheus iawn!

Fy hoff gân oedd ‘Pentre Mathri Lân’ oedd Ben yn canu ar y dôn ‘Johnny Comes Marching Home’, sy’n disgrifio llawer o drigolion Mathri mewn ffordd ddigri, er enghraifft:

“Ma Jo siop ardderchog yn i le, hwrê, hwrê,

Yn gwerthu shwgwr, sebon a thê, hwrê, hwrê,

Sim raid i chi dalu am fîsh ne ddou

Ond diwedd i gân yw ‘pei yp mei boi’.

Hip hip hwrê-i, pentre Mathri lân.”

Mae’n debyg mai bwriad y trawsgrifio oedd i blant ysgol yn Sir Benfro gael dysgu rhai o’r caneuon – fel bo’r geiriau a’r dafodiaith ar gôf a chadw gan y genhedlaeth nesaf – syniad ardderchog! Rwy’n siwr byddai Ben Bach wrth ei fodd.

Gwenno Watkin

Gwirfoddolwr LlGC

Categori: Erthygl