Y Rhaglen
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig cyllid o £5,000 yr un ar gyfer hyd at dri syniad prosiect diwylliannol neu dreftadaeth sy’n archwilio treftadaeth anniriaethol De Asia yng Nghymru. Rydym yn gwahodd unigolion i wneud cais gyda syniad prosiect sy’n bwysig iddyn nhw, wedi’i lunio drwy sgyrsiau, gweithgareddau a ffyrdd eraill o gynnwys eu cymuned.
Mae “De Asia” yn cynnwys pobl a threftadaeth sy’n gysylltiedig ag Afghanistan, Bangladesh, Bhutan, India, y Maldives, Nepal, Pacistan a Sri Lanka. Mae treftadaeth De Asia wedi cyfrannu’n sylweddol at fywyd yng Nghymru ers degawdau, ac mae’r rhaglen hon yn dathlu’r straeon, yr arferion a’r profiadau y mae cymunedau am eu rhannu.
Mae’r gwaith hwn yn rhan o Spaces, Places and Belonging, dan arweiniad The National Archives gyda phartneriaid ledled y DU.
Pam rydym yn gwneud hyn
Mae treftadaeth De Asia wedi siapio Cymru ers cenedlaethau, ond nid yw bob amser yn weladwy mewn casgliadau cenedlaethol na straeon cyhoeddus. Trwy’r rhaglen hon, rydym am:
- gefnogi unigolion i archwilio agweddau ar eu treftadaeth
- creu lle i straeon ac arferion sy’n adnabyddus yn lleol
- adeiladu cysylltiadau cryfach rhwng y Llyfrgell a chymunedau De Asia
- annog ymwneud â threftadaeth, hunaniaeth a pherthyn trwy ddulliau sydd wedi’u harwain gan y gymuned
Gwaddol ac ymgysylltu cymunedol
Mae’r alwad hon yn fan cychwyn. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn gweithio gyda chyfeillion beirniadol a phanel allanol sy’n gysylltiedig â chymunedau De Asia yng Nghymru, i lunio’r rhaglen ac adolygu’r ceisiadau. Mae eu cyfraniad yn ein helpu i adeiladu perthnasoedd cryfach ac i sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu llywio gan wybodaeth gymunedol.
Wrth i’r prosiectau a gomisiynir ddatblygu, rydym yn gobeithio aros mewn cysylltiad â’r unigolion sy’n derbyn y comisiynau - gan ddysgu o’r gwaith, parhau â’r sgwrs, ac edrych ar sut y gall y rhaglen dyfu yn y dyfodol. Dros amser, rydym yn gobeithio y bydd hyn yn cefnogi mwy o gynrychiolaeth o dreftadaeth De Asia yn y casgliadau cenedlaethol ac yn helpu i siapio cydweithio pellach.
Beth rydym yn ei feddwl wrth Dreftadaeth Anniriaethol
Mae treftadaeth anniriaethol yn cyfeirio at ochr fyw, anffisegol diwylliant - y pethau mae pobl yn eu hymarfer, eu cofio, eu rhannu a’u trosglwyddo. Gall hyn gynnwys:
- straeon a atgofion
- ieithoedd a ffyrdd o siarad
- gŵyliau, defodau a dathliadau
- traddodiadau bwyd
- cerddoriaeth, dawns, barddoniaeth, crefftau a thraddodiadau llafar
- credoau, gwerthoedd a gwybodaeth sy’n cael ei rhannu
- hanesion cymunedol a phrofiadau o le
Beth rydym yn chwilio amdano
Rydym yn croesawu syniadau prosiect gan bobl sy’n gysylltiedig â chymunedau De Asia yng Nghymru.
Dylai eich prosiect:
- archwilio agwedd ar dreftadaeth anniriaethol
- gynnwys cyfranogiad cymunedol ystyrlon
- gael ei arwain gennych chi a’i lunio gyda’ch cymuned
- gael ei gyflwyno mewn unrhyw iaith
Gall prosiectau fod yn amrywiol, gan gynnwys:
- hanesion llafar neu sgyrsiau wedi’u recordio
- deunyddiau sydd wedi’u cynhyrchu gan y gymuned fel ffotograffau, ryseitiau, caneuon neu fapiau
- gwaith creadigol neu artistig
- gwaith ymchwil neu fyfyrio
- dulliau digidol neu arbrofol
- ffyrdd newydd neu sy’n dod i’r amlwg o fynegiant
Beth rydych yn ei dderbyn
Bydd pob prosiect llwyddiannus yn derbyn:
- £5,000 ar gyfer eich amser a holl gostau’r prosiect
- cefnogaeth gan dimau Ymgysylltu Cymunedol a Chasgliadau y Llyfrgell
- llwyfan i arddangos eich prosiect a’i effaith
Beth rydym yn gofyn i chi ei wneud
Os caiff eich prosiect ei ddewis, byddwn yn gofyn i chi:
- gyflwyno’r prosiect o fewn yr amserlen a gytunwyd
- ymuno â chyfarfod byr hanner-ffordd
- rhannu myfyrdod ysgrifenedig, sain neu fideo ar ddiwedd y prosiect
Hawlfraint ac archifo
Mae eich syniadau a’ch gwaith creadigol yn parhau i fod yn eiddo i chi.
Hoffai’r Llyfrgell Genedlaethol archifo deunyddiau eich prosiect fel eu bod yn cael eu diogelu ar gyfer y dyfodol ac ar gael i ymchwilwyr, cymunedau a chenedlaethau’r dyfodol - ond dim ond gyda’chcytundeb.
Byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu beth sy’n teimlo’n iawn, gan gynnwys beth i’w rannu, sut y caiff ei gadw, a pha derfynau rydych yn eu ffafrio.
Meini prawf cymhwyster
I wneud cais, dylech:
- wneud cais fel unigolyn
- fod wedi’ch lleoli yng Nghymru
- fod yn rhan o, neu’n gweithio’n agos gyda, chymunedau De Asia yng Nghymru
- gael yr hawl i weithio yn y DU
- allu cyflwyno’r prosiect rhwng Medi 2026 a Mawrth 2027
Amserlen
- Agor yr alwad: Gorffennaf 2026
- Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 31 Gorffennaf 2026
- Canlyniadau: diwedd Awst 2026
- Cyflwyno prosiectau: Medi 2026 – Mawrth 2027
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais yn ysgrifenedig, drwy sain neu drwy fideo - dewiswch beth sy’n teimlo’n fwyaf naturiol i chi. Dylai eich cynnig fod yn llai na 1,500 o eiriau (neu’r cyfwerth mewn sain neu fideo).
Dylech gynnwys yn gryno:
- pwy ydych chi a’ch cysylltiad â’r gymuned
- pa agwedd ar dreftadaeth anniriaethol rydych am ei harchwilio
- sut bydd eich cymuned yn cymryd rhan
- beth rydych yn gobeithio ei archwilio neu ei ddeall
- unrhyw gymorth y gallech ei angen
- amlinelliad syml o sut byddwch yn defnyddio’r gyllideb
Gallwch wneud cais yn Gymraeg neu’n Saesneg.
Os oes angen y canllaw hwn arnoch mewn iaith arall, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod.
Am unrhyw gwestiynau, neu i anfon eich cais pan fydd wedi’i gwblhau, e-bostiwch: cymunedau@llyfrgell.cymru
