Alan Jobbins Papers
Papurau ymchwil ynghylch agweddau ar hanes a gwleidyddiaeth Cymru ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn cynnwys yn enwedig Tom Ellis, Arglwyddes Llanofer a'r Blaid Geidwadol.
Archif Cynulliad Cenedlaethol Cymru National Assembly for Wales Archive
Blwch ychwanegol o ddeunydd diweddar yn ymwneud ag ymgysylltu.
Archif Yes Cymru Archive
Llenyddiaeth ymgyrchu a phapurau gweinyddol mudiad Yes Cymru, a rhywfaint o ddeunydd yn ymwneud ag ymgyrchoedd annibyniaeth mewn gwledydd eraill.
Billy Boston Story (NLW ex 3119)
Bywgraffiad Jack Winstanley o Billy Boston, y Cymro du arloesol a ddaeth yn chwedl Rygbi'r Gynghrair i Wigan a Phrydain Fawr yn y 1950au.
Cambrian Coast Line Action Group Archive
Archif yr ymgyrch yn y 1970au a'r 1980au i atal cau rheilffordd arfordir y Cambrian rhwng Machynlleth a Phwllheli, gyda phapurau cysylltiedig.
Casgliad R. M. (Bobi) Owen
Papurau'r ysgolfeistr a'r hanesydd lleol R.M. (Bobi) Owen, Dinbych, yn cynnwys yn bennaf llythyrau ato neu a gasglwyd ganddo yn ymwneud â materion o ddiddordeb hanesyddol a diwylliannol.
Drama Association of Wales: Additional Scripts
Sgriptiau drama a gedwid gynt yn llyfrgell fenthyca’r DAW (sydd bellach yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd), ar ôl cael eu caffael gan gwmnïau theatr ledled Cymru.
Eustis Family Letters (NLW ex 3122)
Dros 100 o lythyrau a anfonwyd adref gan dri brawd o Abertawe tra’n ymladd yng ngorllewin Ewrop a'r Dwyrain Canol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Gareth Vaughan Jones Papers
Bocs pellach o bapurau'r newyddiadurwr Gareth Vaughan Jones (1905-1935), yn ymwneud â rhyddfraint Bwrdeistref y Barri yn ogystal â materion teuluol.
Geiriadur William Owen Pughe (NLW MS 24211i-iiC)
Copi 'Rhif 1' William Owen Pughe o'i eiriadur o'r iaith Gymraeg yn Saesneg, 1803, wedi'i arnodi yn ei law ei hun.
George Julian Scovell (Coalition Liberal Organisation) Papers
Ychwanegiad at bapurau personol a phroffesiynol Scovell yn ymwneud â'i waith gyda David Lloyd George yn ystod ac ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.
Griff Jones Papers
Llythyrau yn ymwneud â blynyddoedd ffurfiannol y Blaid Lafur, a anfonwyd gan wleidyddion yn cynnwys J. Ramsay MacDonald, Philip Snowden ac eraill at Griff Jones, ymgyrchydd y blaid yn Abertawe.
Gwyn Griffiths Papers
Dau ar hugain o focsys ychwanegol o bapurau Gwyn Griffiths (1956- ), cadeirydd olaf Plaid Ryddfrydol Cymru cyn iddi uno â'r SDP i ffurfio'r Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol a Rhyddfrydol ym 1988.
Harry Secombe Archive
Tri bocs arall o bapurau a phethau cofiadwy yn dogfennu gyrfa'r digrifwr, canwr, awdur a darlledwr Harry Secombe (1921-2001).
Historia Regum Britanniae, annotated by Robert Vaughan of Hengwrt (NLW MS 24207B)
Copi printiedig, 1517, o hanes brenhinoedd Prydain a ysgrifennwyd gan Sieffre o Fynwy yn y ddeuddegfed ganrif, wedi'i arnodi gan yr hynafiaethydd Robert Vaughan o Hengwrt; cipolwg pwysig ar ymdeimlad hunaniaeth Gymreig a Phrydeinig yn yr ail ganrif ar bymtheg.
Ithel Davies Papers
Ychwanegiad at bapurau'r bargyfreithiwr a'r ymgyrchydd gweriniaethol Cymreig Ithel Davies (1894-1989), yn ymwneud yn bennaf â'i dribiwnlys a'i lys milwrol fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
James Griffiths Papers
Tri bocs arall o bapurau’r gwleidydd Llafur Cymreig Jim Griffiths (1890-1975), yn ymdrin â phynciau yn cynnwys Yswiriant Gwladol, materion trefedigaethol, y wasg, busnes y blaid a materion etholaethol.
King’s Council's response to the 1715 Jacobite uprising (NLW ex 3135)
Llythyr gan Gyngor y Brenin, Medi 1715, at John Morgan, Arglwydd Raglaw Sir Fynwy, ynghylch gwrthryfel y Jacobitiaid ac yn benodol paratoi'r milisia ac arestio pabyddion.
Labour Party Wales Archives
Saith blwch arall o bapurau, 1946-2011, yn cynnwys llyfrau cofnodion, gohebiaeth, nodiadau, dogfennau polisi, adroddiadau blynyddol, torion o’r wasg, cyhoeddiadau a deunydd ymgyrchu.
Leanne Wood Papers
Papurau gwleidyddol Leanne Wood, y fenyw gyntaf i arwain Plaid Cymru ac Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd Cymru.
Lord Goronwy-Roberts Papers
Papurau pellach Goronwy Roberts (1913-1981), AS Llafur a llais cryf dros ddatganoli i Gymru.
Lord Rowe-Beddoe Papers
Papurau David Rowe-Beddoe (1937-2023), dyn busnes ac aelod croesfeinciau Tŷ'r Arglwyddi.
Llyfr Poced Edward Williams, Llansilin (NLW MS 24215A)
Llyfr poced yn llaw Edward Williams yn cynnwys deunydd, 1665-1689, yn ymwneud ag amseryddiaeth, sêr-ddewiniaeth, trethiant eglwysig, cyfrifon ffermio, ryseitiau meddygol, barddoniaeth a rhyddiaith.
Mappowder Powys Collection
Papurau Lucy Penny a Mary Casey, chwaer a nith yr awdur John Cowper Powys (1872-1963), yn cynnwys deunydd yn ymwneud ag ef yn ogystal â gohebiaeth deuluol helaeth; bu Lucy a Mary yn byw ym Mappowder yn Dorset ar ddiwedd eu hoes.
Papers relating to the Asylum for the united counties of Glamorgan, Carmarthen, Cardigan and Pembroke
Deisebau a gyflwynwyd gan drethdalwyr a phlwyfi i ynadon sirol ynghylch y bwriad i godi ‘gwallgofdy’ sirol ar y cyd yn ardal Abertawe, ynghyd â chytundebau, gohebiaeth, a deunydd gweinyddol a chyfreithiol cysylltiedig.
Papurau Cynog Dafis
Dwy ffeil bellach o ohebiaeth wleidyddol Cynog Dafis, AS Plaid Cymru dros Geredigion yn y 1990au.
Papurau Evan Roberts, Llandderfel
Ychwanegiad at bapurau’r hanesydd lleol a'r awdur Evan Roberts (1877-1977), Llandderfel, Meirionnydd.
Papurau Ioan Roberts
Papurau ymchwil y newyddiadurwr, darlledwr ac awdur Ioan Roberts (1941-2019), yn adlewyrchu ei waith ysgrifennu a golygu tua diwedd ei oes.
Papurau Huw Ethall
Llythyrau at y gweinidog Annibynnol a'r awdur Huw Ethall (1917-2013), yn bennaf ynglŷn â'i waith bywgraffyddol a'i ymchwil ar lenyddiaeth Gymreig, ynghyd â rhai o bapurau ei wraig, Hilda.
Papurau Wynfford James
Papurau Wynfford James yn adlewyrchu ei weithgareddau yn y 1970au a'r 1980au fel ymgyrchydd dros yr iaith, yn rheolwr gyfarwyddwr Antur Teifi ac yn aelod o Awdurdod Datblygu Cymru.
Rossini Music Manuscript (NLW MS 24210B)
Rhan o ddarn anhysbys ar gyfer piano yn llaw'r cyfansoddwr Gioachino Rossini (1792-1868), wedi'i lofnodi ganddo ac wedi'i gyflwyno i'r pianydd a'r cyfansoddwr o Gymro Henry Brinley Richards.
Sabrina Johnson (Welsh Pony and Cob Society) Collection (NLW ex 3121)
Achau, nodiadau ymchwil, catalogau gwerthu a phapurau eraill yn ymwneud â hanes merlod a chobiau Cymreig.
Welsh Political Ephemera Collection
Ychwanegiadau diweddar yn ymwneud â mudiadau yn cynnwys y Blaid Lafur, Plaid Cymru, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Gwrthryfel Difodiant Cymru ac Yes Cymru, yn ogystal â phynciau yn cynnwys y terfyn cyflymder 20mya, peilonau, llysieuaeth, Ystâd y Goron a rhyfel Israel-Hamas.
Welsh Tract Land Indentures (NLW MS 24209E)
Cyfrol gyfoes o Philadelphia yn cofnodi gwerthiannau tir yn yr ardal a nabyddid fel yr ‘Welsh Tract’ ym Mhennsylvania yn y 1680au, yn bennaf i Grynwyr Cymreig.
Ar y gweill
Richard Llewellyn Papers
• Chwe bocs a dwy gyfrol arall, yn cynnwys llawysgrif wreiddiol ‘How green was my valley’ (prynwyd gyda chymorth Cyfeillion y Llyfrgelloedd Cenedlaethol).
Casgliad Iwan Standley
• Pethau cofiadwy canu pop Cymraeg ar droad yr 21ain ganrif, yn cynnwys taflenni, ffansînau, posteri ac ati.
A llawer mwy, yn cynnwys archifau digidanedig.
Categori: Erthygl
