Symud i'r prif gynnwys
Darlun yn edrych draw at Yr Wyddfa

9 Ionawr 2023

Ymysg y llyfrau a brynwyd yn ddiweddar ar gyfer ein casgliadau llyfrau prin oedd Experiments and observations made in Britain, in order to obtain a rule for measuring heights with the barometer.  Yr awdur oedd Cyrnol William Roy (1726-1790), tirfesurydd a sylfaenydd yr Arolwg Ordnans.  Cyhoeddwyd yr adroddiad yn wreiddiol yn Philosophical transactions y Gymdeithas Frenhinol yn 1777, ond mae’r copi a brynwyd wedi’i gyhoeddi ar wahân gan J. Nichols y flwyddyn wedyn.

Gwnaethpwyd yr arbrofion a ddisgrifir yn yr adroddiad mewn sawl lle, gan gynnwys Schiehallion yn yr Alban a’r Wyddfa yng Nghymru.  Yn ogystal â disgrifiadau o’r arbrofion, mae’r llyfr yn cynnwys tablau o’r mesuriadau a mapiau o’r mynyddoedd lle cawsant eu gwneud.  Mae’n dystiolaeth bwysig o gyfraniad gogledd Cymru at ddatblygiadau gwyddonol yn y ddeunawfed ganrif.

Timothy Cutts,

Llyfrgellydd Llyfrau Prin

Categori: Erthygl