Symud i'r prif gynnwys
Darlun steiliedig o Fae Caerdydd, gan gynnwys adeilad brics coch y Pierhead, Canolfan y Mileniwm a'r Senedd

Ysgrifennwyd gan Rob Phillips

9 Gorffennaf 2026

Mewn unrhyw ymgyrch etholiad mae’r ymgeiswyr a’r pleidiau yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gyrraedd etholwyr a chael eu neges drosodd. Mae’r dulliau hyn yn cynnwys cyfarfodydd cyhoeddus, canfasio, teledu a radio, y we a’r cyfryngau cymdeithasol ond mae un dull sydd wedi cael ei defnyddio ers dros 2 ganrif yn aros yn bwysig - yr anerchiad printiedig.

Mae ein casgliad o anerchiadau etholiad yn dyddio yn ôl i 1837 ond dros y 40 mlynedd diwethaf mae’r Archif Wleidyddol Gymreig wedi gwneud ymdrech arbennig i gasglu pob math o daflenni, posteri, bathodynnau a deunydd ymgyrchu etholiad yn bwriadu gyda chymorth bron i 100 o gefnogwyr ym mhob rhan o Gymru. Mae ein casglwyr gwirfoddol i gadw pob darn i effemera ymgyrchu sy’n eu cyrraedd ac yn eu postio atom ar ôl yr etholiad fel bod casgliad cynhwysfawr o bob ymgeisydd, plaid ac etholaeth. Roedd y gwaith hwn hyd yn oed yn fwy pwysig eleni gydag etholiad yn defnyddio sustem etholiadol newydd ar gyfer Senedd Cymru gyda mwy o aelodau ac ymgyrch lle roedd y canlyniad yn newid mawr.

Mae trefnu’r deunydd yn waith diddorol pob tro i weld pa fath o negeseuon oedd yn cael eu defnyddio, dyluniad y taflenni a dulliau ymgyrchu gwahanol. Mae rhai pleidiau yn ymgyrchu gydag anerchiadau unffurf ar draws y wlad; yn y rhan fwyaf o etholaethau, dim ond deunydd ymgyrch canolog oedd yn cael ei gylchredeg gan Reform UK gyda lluniau Nigel Farage a Dan Thomas a heb fawr o sylw ar yr ymgeiswyr lleol, tra roedd deunydd ymgyrchu Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn lleol iawn gyda llawer o bwyslais yr ar yr ymgeiswyr. Roedd Plaid Cymru wedi cylchredeg rhai taflenni cenedlaethol gyda ffocws ar Rhun ap Iorwerth yn ogystal â deunydd lleol yn ffocysu ar faterion ac ymgeiswyr lleol. Roedd Llafur Cymru, y Blaid Werdd a’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dilyn yr un patrwm yn cylchredeg cymysgedd o anerchiadau cenedlaethol a deunydd lleol. Mae wastad yn ddiddorol hefyd i weld anerchiadau ymgeiswyr annibynnol, a ble mae’r ymgyrchu wedi bod yn fwy dwys.

Mae rhai o’n gwirfoddolwyr casglu yn cadw deunydd maen nhw’n derbyn yn bell cyn yr etholiad ac mae hyn wedi gwneud y casgliad eleni yn nodweddiadol am reswm arall. Erbyn i James Evans MS yn newid plaid o’r Ceidwadwyr Cymreig i Reform UK yn gynnar yn 2026, roedd un daflen ymgyrchu wedi cael ei gylchredeg ym Mrycheiniog Tawe Nedd eisoes felly dyma’r tro cyntaf (hyd y gwn i) bod taflen gan yr un ymgeisydd ar ran dwy blaid wahanol yn yr un etholiad ddod i law!

Mae Casgliad Effemera Gwleidyddol Cymreig yn un hynod ddiddorol ac yn ffynhonnell bwysig ar gyfer ymchwilwyr. Mae’n bodoli oherwydd bod ein casglwyr gwirfoddol yn meddwl am archifo yn lle ailgylchu. Diolch yn fawr iawn iddynt.