Mae ein gwaith digido wedi parhau tu ôl i’r llen ac mae nifer o eitemau a chasgliadau newydd bellach ar gael yn ddigidol i’w pori o gartref ar wefan y Llyfrgell a/neu y catalog.
Llawysgrifau
Casgliad Peniarth
- Awdlau Cynddelw, Breuddwyd Pawl, &c. (Peniarth MS 3)
- Fragments of Branwen, Manawydan and Geraint ap Erbin (Peniarth MS 6)
- Ystoria Charlymaen (Peniarth MS 8)
- Ystoria Charlymaen, &c. (Peniarth MS 10)
- Historia Gruffudd fab Cynan and natural treatise (Peniarth MS 17)
- Fragment of Brut y Brenhinedd (Peniarth MS 24)
- Proffwydoliaethau, astroleg a barddoniaeth (Peniarth MS 26)
- Llyfr Colan (Peniarth MS 30)
- Barddoniaeth Lewys Glyn Cothi (Peniarth MS 70)
- Barddoniaeth (Peniarth MS 71)
- Barddoniaeth (Peniarth MS 73)
- Pedigrees (Peniarth MS 74)
- Barddoniaeth Morgan Elfel (Peniarth MS 79)
- Barddoniaeth (Peniarth MS 81)
- Barddoniaeth Hywel Cilan (Peniarth MS 85)
- Barddoniaeth (Peniarth MS 87)
- Cynghorau Catwn Ddoeth (Peniarth MS 88)
- Cywyddau John [Siôn] Phylip (Peniarth MS 89)
- Barddoniaeth Siôn Cain (Peniarth MS 90)
- Documents relating to the abbeys of Valle Crucis and Cymer (Peniarth MS 208)
- Sir Kenelm Digby (Peniarth MS 210)
- Tadogolion Eiriau dau Sillafog (Peniarth MS 303)
- Mathau o lythrennau (Peniarth MS 307)
- Secretum secretorum, etc. (Peniarth MS 339)
- A diary and a letter book (Peniarth MS 416 ii)
- A diary and a letter book (Peniarth MS 416 vii)
- Diaries and notebooks (Peniarth MS 521 ii)
- Diaries and notebooks (Peniarth MS 521 v)
- Diaries and notebooks (Peniarth MS 521 vi)
- Diaries and notebooks (Peniarth MS 521 vii)
- Diaries and notebooks (Peniarth MS 521viii)
- Diaries and notebooks (Peniarth MS 521ix)
- Diaries and notebooks (Peniarth MS 521xi)
- Diaries and notebooks (Peniarth MS 521xii)
- Diaries and notebooks (Peniarth MS 521xiii)
- Diaries and notebooks (Peniarth MS 521vii)
- Diaries and notebooks (Peniarth MS 521xiv)
- Diaries and notebooks (Peniarth MS 521xv)
- Diaries and notebooks (Peniarth MS 521xvii)
- Diaries and notebooks (Peniarth MS 521xviii)
- A Welsh grammar (Peniarth MS 529 ii)
- A Welsh grammar (Peniarth MS 529 iii)
Llawysgrifau
- Journal of Capt. E. Charles Cocks (Titus and Elizabeth Evans Papers: MS 54)
- On the degeneracy of words by Anthony Allen (NLW MS 15196D)
- Plasnewydd Library Catalogue (NLW MS 22980C)
- Llythyrau ymfudwyr at deulu Thomas, Pantyclochydd, Llanwenog (NLW MS 6426D)
Archifau
Effemera Gwleidyddol
Digidwyd yr holl eitemau yng nghasgliad Archif Wleiddyddol Cymru yn ymwneud ag ymgyrchoedd refferendwm datganoli Cymru yn 1979 ac 1997.:
Rhodri Morgan letters
Rhwng 1961 a 1963, bu Rhodri Morgan, a fyddai yn ddiweddarach yn Brif Weinidog Cymru, yn astudio ym Mhrifysgol Harvard yn Unol Daleithiau America. Tra’r oedd yno, ysgrifennodd gyfres o 88 llythyr at ei deulu yn Abertawe yn disgrifio ei brofiadau, y newyddion, a’i farn ar faterion pwysig y dydd. Mae’r llythyron yn dangos Rhodri Morgan yn datblygu ei syniadaeth wleidyddol a’r profiadau oedd wedi dylanwadu arno.
- Letters from Rhodri Morgan, 1961-1963 (Papurau Prys Morgan: File 25)
- Letters from Rhodri Morgan, 1961-1963 (Papurau Prys Morgan: File 26)
- Letters from Rhodri Morgan, 1961-1963 (Papurau Prys Morgan: File 27)
Lord Ogmore Papers
- Lord Ogmore Papers 54: Investiture of the Prince of Wales
Teipysgrif o ‘The dedication of a prince’ gan yr Arglwydd Ogmore yn rhoi hanes arwisgo’r Tywysog Charles yn Dywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon yn 1969. Roedd Arglwydd Ogmore yn aelod o bwyllgor trefnu’r arwisgo ac mae’r deipysgrif yn cynnwys 12 pennod yn sôn am agweddau gwahanol y digwyddiad gan gynnwys gwaith y pwyllgor trefnu, paratoadau ac ymarferion, gwrthwynebiad, disgrifiad o’r diwrnod a digwyddiadau wedyn.
Calvinistic Methodist Archive
- Diary of Richard Jones, Llanfair (CMA 8717)
- ‘Y gymdogaeth hon’, an account of the Penllwyn district by William Sylvanus Williams, schoolmaster, Penllwyn (CMA 14917)
- A leather bound volume of Welsh and English sermons (Bala College I/769)
- Letters from Rowland Price Brees, Columbus, to his mother, brother and sisters (CMA 22297-22298)
- Letter from Rowland Price Brees, Radnor, to his brother and sister (CMA 22299)
- Letters from Rowland Price and Hugh Price Brees, to their brothers and sisters (CMA 22300-22301)
- Letters from Thomas Brice Prys Brees, Baltimore, to Anne Brees, his mother (CMA 22302-22307)
- Letter from Thomas Brice Prys Brees, Baltimore, to his brothers and sisters (CMA 22308)
- Letter from Thomas Brice Prys Brees and Jane his wife, Baltimore, to Owen Prys (CMA 22309)
- Letter from Thomas Brice Prys Brees and Jane his wife, Baltimore, to his brothers and sisters (CMA 22310)
- Letters from W. H. Breese, Granville, Newark, to Owen Prys, his uncle (CMA 22311-22312)
- Letters from Jane Prys, Baltimore, to Owen Prys, her brother-in-law (CMA 22313-22314)
Deunydd Print
Rhyddhawyd dros 800 eitem o’r casgliad print trwy’r prif gatalog, gan gynnwys gweithiau fel Libri Walliae (Cyfrol I, Cyfrol II a’r Atodiad) a detholiad o eitemau printiedig cynnar a brynwyd gan neu a roddwyd i’r Llyfrgell yn ddiweddar:
- A. O. Exquemelin, Historie der boecaniers, of vrybuyters van America van haar eerste beginzelen tot deze tegenwoordige tyd toe: met figuuren (1700)
- John Gill, Christmas Evans, Titus Lewis, Joseph Harris, Esponiad athrawiaethol ac ymarferol, ar y Testament Newydd, (1810) Cyf. 1, Cyf. 2
- Azariah Shadrach, Udgorn y Jubili yn cyhoeddi rhyddid i’r Hottentotiaid … (1818)
- Corps d’observations de la Société d’Agriculture, de Commerce & des Arts, établie par les États de Bretagne : années 1757 & 1758, (1760)
- Valentin et Orson, (1515)
- William Buchan, Cydymaith mamau a mammaethod, a chyfaill plant … (1825-1865)
- Marcus Tullius Cicero, Johannes Sturm, Denys Lambin, Henri Estienne, Marci Tullii Ciceronis epistolarum libri IV (1686)
- A. O. Exquemelin, Histoire des avanturiers qui se sont signalez dans les Indes … (1688), Vol. 1, Vol. 2
Cofiannau
Ychwanegwyd fersiynau digidol o nifer o gofiannau i’r catalog hefyd. Mae’r detholiad yn cynnwys teitlau megis:
- Ann Griffiths, Morris Davies, W. Caledfryn Williams, Cofiant Ann Griffiths, gynt o Dolwar Fechan, Llanfihangel yn Ngwynfa, Swydd Drefaldwyn: ynghyd a’i llythyrau a’i hymnau (1908)
- David Hooper, A Welshman in India. A record of the life of Thomas Evans, missionary (1908)
- Benjamin Ward Richardson, William Gilbert, the first electrician (1890)
- J James, William Tomos Benja: cymeriad hynod a adwaenwn (1911)
- Rees Jenkin Jones, Niclas Shams: un o gymeriadau hynod Hen Dy Cwrdd, Aberdar … (1913)
- T. Mardy Rees, The heroes of 1662 : a pamphlet containing the chief reasons of the two thousand ejected clergy for refusing to obey the Act of Uniformity, 1662 (1912)
- T. D. Jones, Home life of the Welsh colliers (1881)
- John Wolfe Barry, Notes on Barry genealogy in England and Wales (1906)
- Robert G Williams, Thrilling experience of the Welsh evangelist, R.G. Williams, reformed drunkard and gambler (1896)
- John Roberts, Fy merch, fy chwiorydd, a’m gwraig (1866)
- John Jones, From plough-boy to skipper: being the reminiscences of an experience of nearly 40 years at sea in all parts of the world (1910)
Mapiau a Deunydd Graffigol
Casgliadau Ffotograffig
Llyfrau Ffoto 6803 X ‘Souvenirs of Adelina Patti‘
Roedd Adelina Patti (1843-1919) yn un o sêr mwyaf y byd opera yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r albwm yn enghraifft gwych o Victoriana clasurol wedi’i addurno’n gywrain, yn cynnwys casgliad o ffotograffau’n dogfennu gyrfa Adelina Patti gan ffotograffwyr blaenllaw’r dydd ym Mharis a Llundain, yn dangos y soprano mewn amrywiol operâu ar frig ei gyrfa yn ystod y 1860au.
Don Griffiths – Casgliad 1964
Roedd Don Griffiths yn ffotograffydd proffesiynol yn y Drenewydd a gyflogwyd gan y Montgomeryshire Express a chyhoeddiadau cysylltiedig. Roedd yn tynnu lluniau o Rhyl i Aberhonddu rhwng y 1960au a’r 1990au. Mae llawer o’r eitemau o gryn ddiddordeb yn lleol ac yn ehangach gan eu bod yn cynrychioli ciplun o fywyd yng nghymunedau Sir Drefaldwyn yn ystod cyfnod o newid cymdeithasol a thechnegol. Mae’r casgliad yn cynnwys ffotograffau o bersonoliaethau lleol (e.e. Rhiannon Jones, Cwmtrefarlo & Trixie), digwyddiadau cymdeithasol (e.e. Newtown Carnival; Llanidloes “Miss Valentine”; Welshpool Pantomime; Christmas Cavalcade, Newtown; Twist & Shout), crefyddol (e.e. Llanidloes Methodist Church Party; Montgomery Church Sunday School Party), diwylliannol (e.e. Gorsedd Stones Reach Newtown; Caersws Amateur Operatic Society; Kerry Male Voice Choir), digwyddiadau cenedlaethol (e.e. Royal Welsh Show; General Election 1964), damweiniau ffordd (e.e. Overturned Lorry nr Llangurig; Motor Accident, Buttington Bridge), ysgolion (e.e. Gungrog Infants School; Llanfair School Eisteddfod; Machynlleth School Fire), chwaraeon (e.e. Unidentified Soccer Team), busnesau lleol (e.e. Wynnstay Egg Production; Welshpool Horse Mart). Mae’r gwaith yn ei gyfanrwydd yn rhoi trosolwg o fywyd yn y Drenewydd, y Trallwng, Llanidloes a’r ardaloedd cyfagos yn ystod canol y 1960au. Allbwn 1964 yw’r casgliad yma o tua 3500 o negyddion.
Casgliad Guy Hughes
Casgliad o 315 o negyddion plât cyfan du a gwyn gan y ffotograffydd Guy Hughes o Bwllheli yn dyddio o 1909 i ca. 1935. Mae’r pynciau’n cynnwys digwyddiadau cymdeithasol (e.e. Roller Skate Carnival, Llanbedrog; May Queen, 1913; Group In Fancy Dress outside Plas Glyn-y-Weddw), busnesau lleol, yn enwedig mwyngloddiau a chwareli, banciau a gwestai (e.e. Crosville Motor Services Leyland Bus; Nanhoron Arms Hotel; Caernarfon Brickworks; Quarry Buildings and Terrace of Houses) a digwyddiadau lleol (e.e. Amateur Dramatics; Large Wedding Group; Children in Pierrot Costumes; Newly built Council Houses, Ffordd y Maer, Pwllheli ac agor gorsaf reilffordd newydd Pwllheli yn 1909).
Casgliad John Peris Jones
97 negydd gwydr, y mwyafrif yn olygfeydd o Lanrhaeadr-ym-Mochnant a’r ardal yn ystod degawd cyntaf yr ugeinfed ganrif (e.e. Old Market Hall, Llanrhaiadr-ym-Mochnant, demolished 1901; Market Hall, Llanrhaiadr. [c.1905]; Vyrnwy Hotel & Lake; Tafarn Llaw / Hand Hotel, Llanrhaiadr-ym-Mochnant] [c.1905]). Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys rhai portreadau o bobl a grwpiau o bobl (e.e. T. Lloyd the Harpist [c.1905]; A.B. Lewis Grocer & Provision Dealer [c.1905]; Two ladies in costumes [c.1905] a Montgomeryshire Yeomanry marching from camp at Llanfyllin. [no.2] [c.1910]).
Sleidiau Hywel Harries
Casgliad o 371 o sleidiau 35mm, y mwyafrif yn ffotograffau cofnod o weithiau celf y diweddar arlunydd, athro a chartwnydd Hywel Harries (1921-1990). Mae ei olygfeydd o Gymru drefol a gwledig (e.e. Pencader; Graig, Pontypridd; North Parade & Seilo, Aberystwyth; Cardiganshire Village; Cae’r Gog, Aberystwyth; Talybont, Ceredigion) yn parhau i fod yn boblogaidd, yn arbennig ei olygfeydd mwy argraffiadol o ddociau De Cymru (e.e. Dockside cranes; Docks; Ship in dock; Docks, Port Talbot). Peintiodd hefyd nifer fechan o bortreadau (e.e. E.D. Jones, Librarian; T. H. Parry-Williams; E. G. Bowen). Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys nifer fach o ffotograffau cyfeiriol o bobl a lleoedd.
Mapiau
- Allotment on Mold Mountain [ca. 1810] (Peniarth Map 19)
- Estate in Mold [ca. 1840] (Map 7344)
- Trefriw in Mold [1826] (Map 7345)
- Bathafarn Sheepwalk (1793) (Map 7338)
- Chirk Castle Estate Records: F 11578
- Coed Coch and Trovarth Estate Records: 2471 (1772)
- Coed Coch and Trovarth Estate Records: 3298 (1770)
- Smallwood Collection of Deeds and Papers: 40 (1763)
- Smallwood Collection of Deeds and Papers: 43 (1783)
Y Bywgraffiadur Cymreig
Cyhoeddwyd 21 erthygl newydd ar y wefan:
- Ceridwen Lloyd Davies (1900 – 1983), cerddor a darlithydd
- Windsor Davies (1930 – 2019), actor
- Beatrice Green (1894 – 1927), gweithredydd gwleidyddol
- Edward George Hartmann (1912 – 1995), hanesydd
- Julian Stephen Alfred Hodge (1904 – 2004), cyllidwr
- Benjamin Thomas Hopkins (1897 – 1981), ffermwr a bardd
- Elizabeth Anne Howe (1959 – 2019), ecolegydd
- Eldra Mary Jarman (1917 – 2000), telynores ac awdur
- Elizabeth May Watkin Jones (1907 – 1965), athrawes ac ymgyrchydd
- Janet Ellen Lewis (1900 – 1979), nofelydd, bardd a newyddiadurwr
- Richard Alan Morton (1899 – 1977), biocemegydd
- William David Ormsby-Gore (1918 – 1985), gwleidydd, diplomydd, impresario’r cyfryngau
- David Rees (1918 – 2013), mathemategydd
- Paul Leroy Robeson (1898 – 1976), actor, canwr ac actifydd gwleidyddol
- Frances Batty Shand (c.1815 – 1885), gweithiwr elusennol
- Enrico Alphonso Stennett (1926 – 2011), actifydd cydberthynas hiliol, dyn busnes, dawnsiwr
- Hilda Campbell Vaughan (1892 – 1985), awdur
- Harri Webb (1920 – 1994), llyfrgellydd a bardd
- Evan James Williams (1903 – 1945), ffisegydd
- Frances (Fanny) Williams (?1760 – c.1801), carcharor ac ymsefydlwr yn Awstralia
- Griffith Vaughan Williams (1940 – 2010), newyddiadurwr ac actifydd hoyw
Cofiwch ddilyn cyfrifon Trydar Y Bywgraffiadur: @Bywgraffiadur
Morfudd Nia Jones
Swyddog Cynnwys Digidol
Categori: Erthygl