Symud i'r prif gynnwys
Clawr y cyfeiriadur ffon Caer a gogledd Cymru 1900/1901

Ysgrifennwyd gan Hywel Lloyd

9 Chwefror 2026

Prynodd y Llyfrgell lyfryn prin a diddorol a gyhoeddwyd yn 1900 yn ddiweddar. Dyma un o’r enghreifftiau cynharaf o gyfeirlyfr ffôn yn cwmpasu ardal gogledd Cymru a Chaer. Dim ond deuddeg o dudalennau yw hyd y rhestr, sy’n dangos fod y defnydd o ffônau ond yn dechrau ar y pryd.  Wrth i ni fyw trwy gyfnod o ddatblygiad technolegol cyflym, mae’n ddiddorol edrych yn ôl ar sut y defnyddiwyd technolegau newydd dros 125 o flynyddoedd yn ôl.


Pobl fusnes yw'r rhan fwyaf o'r enwau a restrir fel defnyddwyr. Roeddent yn berchen ar ffôn i sicrhau fod cwsmeriaid yn gallu cysylltu â nhw yn haws ac er mwyn galluogi iddynt hwy gysylltu â’u cwsmeriaid. Roedd y gost yn parhau i fod yn afresymol o uchel i drigolion preifat, er ymddengys fod yna rai unigolion neu deuluoedd cyfoethog â ffonau yn eu meddiant.

 

Roedd y rhan fwyaf o alwadau ffôn ar y pryd yn cael eu gwneud drwy switsfwrdd. Trwy godi'r ffôn, byddai'r un sy’n galw yn cael ei gysylltu'n awtomatig â gweithredydd switsfwrdd (benywaidd fel arfer) a fyddai'n gofyn i'r sawl sy’n ffonio am rif. Os oedd y rhif ar switsfwrdd y gweithredydd, byddent yn cysylltu'r alwad trwy blygio'r cebl canu i mewn i jac perthnasol. Pe na fyddai’r rhif ar switsfwrdd y gweithredwr, byddent yn trosglwyddo’r alwad i’r gyfnewidfa gywir, lle byddai gweithredwr arall yn gallu cysylltu’r alwad.


Mae hysbyseb ddiddorol yn ymddangos ar dudalen gefn y cyfeirlyfr ar gyfer llinellau ategol. Mae hyn yn dystiolaeth fod y busnesau wedi dibynnu'n helaeth ar y ffôn fel modd o gyfathrebu. Roedd gweithrediadau switsfwrdd yn ddwys o ran llafur, ac o ganlyniad roedd oedi sylweddol yn ystod cyfnodau prysur. Galluogodd y defnydd o llinellau ategol gysylltu galwadau lluosog yr un pryd. O ganlyniad, roedd modd derbyn galwadau cydamserol i’r un rhif ffôn, felly byddai meddu ar switsfwrdd o’r fath yn ffordd ddeniadol i fusnes bach gynyddu nifer y cleientiaid a fyddai'n gallu cysylltu â nhw.
 

Heddiw, mae gan y mwyafrif o’r boblogaeth uwch gyfrifiaduron yn eu pocedi, mewn ffurf ffonau clyfar, ac rydym yn cymryd technoleg o'r fath yn ganiataol. Mae edrych trwy’r cyfeirlyfr hwn yn gwneud i ni werthfawrogi’r modd yr ehangodd ein dulliau o gysylltu gyda’n gilydd yn fawr. Mae hyn yn allweddol yn ein byd heddiw.
 

Categori: Erthygl