Symud i'r prif gynnwys
Esiamplau o fywgraffiadau o gasgliadau'r Llyfrgell

Ysgrifennwyd gan Sian Drake

12 Ionawr 2026

Mae llyfrau cofiannol yn ddiddorol iawn i’w darllen gan eu bod yn creu darlun o fywydau a phrofiadau pobl amrywiol. Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol amrywiaeth eang o lyfrau cofiannol, ac mae’r lluniau yn y blog yn dangos detholiad o weithiau Cymraeg. Cyfuniad o hunangofiannau a bywgraffiadau unigol sydd yn y llun cyntaf.

Gwelir hunangofiant yr actores Sharon Morgan a bywgraffiad yr actores Siân Phillips gan Hywel Gwynfryn yn y llun. Mae’r llyfrau yn cynnwys cofiant i’r bardd a’r heddychwr Waldo Williams gan Alan Llwyd. Mi fydd 55 mlynedd wedi mynd heibio ers marwolaeth Waldo ym mis Mai eleni. Bu farw’r cyn-athro Gwilym Roberts a oedd yn weithgar iawn ym maes dysgu Cymraeg ar ddiwedd 2025, a gwelir ei hunangofiant yn y llun.

Llyfrau cofiannol Tudur Owen a Meinir Howells, sydd yn wynebau cyfarwydd ar S4C yw ‘Dangos fy hun’ a ‘Ffermio ar y dibyn’. ‘Roedd Tudur Owen yn un o’r bobl adnabyddus a ymddangosodd yng nghyfres gyntaf y rhaglen deledu ‘Cyfrinachau’r Llyfrgell’. Cyfres sy’n dilyn pobl enwog ar daith bersonol yn y Llyfrgell Genedlaethol yw ‘Cyfrinachau’r Llyfrgell’, ac ‘roedd yr ail gyfres yn cynnwys rhaglen am Siân Phillips.

 

Gwelir esiamplau o gofiannau cyfunol a bywgraffiadau atyniadol ar gyfer plant yn yr ail lun. Mae ‘20 o Bobl Liwgar Cymru’ gan Natalie Jones, ‘Cymry o fri!’ gan Jon Gower a ‘Genod gwych a merched medrus’ gan Medi Jones-Jackson yn enghreifftiau o lyfrau sydd yn llawn ffeithiau a lluniau lliwgar. Mae ‘Dewi Sant’ gan Lois Rock, ‘Cranogwen’ gan Anni Llŷn [o’r gyfres ‘Enwogion o Fri’ / ‘Welsh Wonders’] ac ‘Anthony Hopkins’ gan John Emyr [o’r gyfres ‘Enwogion’] yn enghreifftiau o fywgraffiadau diddorol i blant.
 

Cofiannau cyfunol ar gyfer oedolion sydd yn y trydydd llun. Deg portread o bobl sydd â chysylltiad â Llŷn sydd yn llyfr Harri Parri ‘Heb eu Tebyg’. Cysylltiad teuluol yw pwnc y llyfr am Rhys Jones a Caryl Parry Jones [o’r gyfres ‘Dwy genhedlaeth’]. Canlyniad pôl piniwn gan Culturenet Cymru yw’r bywgraffiadau sydd yn y llyfr ‘100 o arwyr Cymru’ [‘100 Welsh heroes’] ac mae ‘Mwy o arwyr Cymru’ yn llyfr gan J. Richard Williams ar gyfer dysgwyr. Cyfres deledu yw ‘Sgwrs Dan y Lloer’, a ddechreuodd adeg dyddiau Cofid a chyfres radio a ddechreuodd yn 1984 yw ‘Beti a'i Phobol’. Elin Fflur sydd yn cyfweld yn ‘Sgwrs Dan y Lloer’ a Beti George sydd yn cyfweld yn ‘Beti a'i Phobol’, ac mae’r cyfweliadau sydd yn ymdrin â hanesion bywydau pobl yn ddiddorol ac amrywiol iawn.

Ceir gwybodaeth fywgraffyddol mewn rhai cyhoeddiadau sydd yn rhan o gyfresi hefyd e.e. ‘Bro a bywyd’, ‘ Writers of Wales’ ac ‘Atgofion drwy ganeuon’. Os rydych chi eisiau chwilio am erthyglau o ddiddordeb Cymreig naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg, mi fedrwch chi edrych ar safle gwe Y Bywgraffiadur Cymreig / Dictionary of Welsh Biography. Mae’r safle gwe yn darparu mynediad am ddim i dros 5,000 o erthyglau, ac mae bywgraffiadau newydd yn cael eu hychwanegu at y gronfa ddata yn rheolaidd.

Categori: Erthygl