Symud i'r prif gynnwys

Cynlluniwyd y siartiau hyn i fod yn ddogfennau gweithio; yn aml fe’u diwygiwyd ac ysgrifennwyd arnynt, ac fel arfer caent eu taflu pan oeddent wedi dyddio neu wedi eu difrodi. O ganlyniad i hyn maent llawer llai tebygol o oroesi na mapiau cyffredin.

Mae siartiau (a’r cyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â hwy) yn darparu llawer o wybodaeth i ymchwilwyr am nodweddion naturiol yr amgylchedd forol ac arfordirol yn y gorffennol a’r presennol yn ogystal ag effaith dyn ar yr amgylchedd hwn. Er enghraifft mae siartiau yn datguddio hanes

  • trafnidiaeth forol
  • datblygiad porthladdoedd
  • adenilliad ac erydiad arfordirol
  • symudiadau gwaddodion
  • cyn-enwau

Casgliadau siartiau’r Llyfrgell

Mae gan y Llyfrgell gasgliad mawr o siartiau, yn bennaf siartiau Admiralty a masnachol modern, ond hefyd siartiau hynafiaethol. Mae’r cysylltiadau isod yn darparu mwy o fanylion am ddaliadau’r Llyfrgell:

Bibliography

  • Llyfrgell Bodleian, All at Sea. The Story of Navigational Charts, (Rhydychen, 1995)
  • Olwen Caradoc Evans, Sea charts and the Principality of Wales, Map Collectors' Circle, No. 54 (Llundain, 1965)
  • A H W Robinson, Marine cartography in Britain, (Caerlŷr, 1962)
  • Coolie Verner, Captain Collins' Coasting Pilot, Map Collectors' Circle, No. 58 (Llundain, 1969)