Symud i'r prif gynnwys

Ceir amrediad eang o gasgliadau, a gedwir mewn sawl gwahanol fformat, sy’n cynnwys:

  • dros 5 miliwn o lyfrau a chyfnodolion
  • 40,000 o gyfrolau llawysgrifau
  • 4 miliwn o ddogfennau archifol
  • 1 miliwn o ffotograffau
  • dros miliwn o fapiau
  • 60,000 o luniau
  • 4,000 o weithiau celf mewn ffrâm
  • deunydd electronig
  • casgliadau sain a delweddau symudol

Adranau cadwraeth

Ers sefydlu LlGC, mae’r angen i gadw a gwarchod ei chasgliadau wedi cael ei gydnabod yn swyddogaeth graidd. Sefydlwyd isadran gadwraeth a rhwymo ym 1912 ac ers ei sefydlu sicrhaodd hyn fynediad parhaus at gasgliadau. Cyflawnwyd hyn trwy weithgareddau triniaeth cadwraeth sy’n cynnwys atgyweirio eitemau a ddifrodwyd a chryfhau eitemau bregus, yn ogystal â rhaglenni cadwraeth ataliol. Mae gweithgareddau cadwraeth ataliol, neu gadwedigaeth yn sicrhau nad yw cyflwr eitemau yn dirywio, waeth pa mor hir y’u cedwir, trwy sicrhau bod eitemau’n cael eu storio mewn amodau amgylcheddol addas i’w fformat, mewn blychau, ac wedi’u storio a’u trin a’u trafod yn gywir.  Yn ogystal, mae’r Llyfrgell wedi ymgymryd â rhaglen sganio eang sydd wedi cynhyrchu copïau dirprwyol o lawer o’i daliadau, sy’n lleihau’r angen i gyffwrdd a byseddu’r  deunydd gwreiddiol.


Cadwraeth ddigidol

Mae mwy a mwy o gynnwys yn cael ei gynhyrchu, storio a’i ddefnyddio mewn fformat digidol. Mae deunyddiau digidol, p’un ai wedi’u creu mewn fformat digidol neu wedi’u trosi i ffurf ddigidol, mewn perygl oherwydd darfodiad, dirywiad a difrod technolegol. Cyfres o weithgareddau yw cadwedigaeth ddigidol a gyflawnir i sicrhau mynediad at ddeunyddiau digidol yn awr ac yn y dyfodol.  Gall y rhain gynnwys diweddaru cyfryngau storio, mudo’r fformat ffeiliau, gwirio cywirdeb ffeiliau a dogfennu cynnwys.


Polisi Cadwediaeth a Gofal Casgliadau

Mae Polisi’r Llyfrgell ar gyfer Cadwedigaeth a Gofal Casgliadau yn darparu’r fframwaith ar gyfer gofalu am y casgliadau ym mhob fformat. Gellir cymhwyso egwyddorion gofal casgliadau i holl gasgliadau LlGC, waeth beth yw eu ffurf a’u fformat. Mae’r egwyddorion hyn yn cynnwys rheoli’r cylch oes, mynediad cynaliadwy, rheoli dulliau storio, adnoddau digonol, cydweithio, sgiliau a hyfforddiant. Mae’r Llyfrgell wedi llunio canllawiau i hyrwyddo arfer da wrth drin a thrafod casgliadau analog, sy’n berthnasol i unrhyw un sy’n dymuno diogelu oes eitemau y dymunant eu cadw.

Mae Jake Henry, Rheolwr Prosiect Cadwedigaeth Ddigidol ar gyfer Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru, wedi cynnal arolwg o anghenion cadwraeth ddigidol, ac mae hwn ar gael o dan dogfennau perthnasol.