Symud i'r prif gynnwys

Uned Gadwraeth

Mae’r Uned Gadwraeth yn gyfrifol am ddiogelu a chadw deunyddiau analog sy’n cael eu dal gan y Llyfrgell.  Mae triniaeth cadwraeth yn cynnwys atgyweirio eitemau a ddifrodwyd a chryfhau'r rhai bregus.  Heb yr ymyriad arbenigol hwn, fe fyddai’n gwbl amhosibl digido llawer o’r eitemau bregus a’u cyflwyno i ddarllenwyr.  Mae cadwraeth ataliol yn golygu cynnal cyfres o weithgareddau sy’n anelu at atal difrod a sefydlogi’r cyflwr, a hynny er mwyn ymestyn oes eitemau’r casgliad.

Wrth gyflawni triniaeth gadwraethol dilynir canllawiau moesegol rhyngwladol.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • pwyslais ar yr ymyriad lleiaf posibl er mwyn diogelu nodweddion hanesyddol y gwrthrych
  • y defnydd o ddeunyddiau ansawdd archifol na fydd yn adweithio’n wael â’r gwrthrych
  • y defnydd o dechnegau sy’n gwbl gildroadwy
  • y defnydd o wybodaeth a thechnegau cyfredol a chydnabyddedig

Defnyddir sgiliau traddodiadol rhwymo llyfrau ochr yn ochr â thechnegau gwyddonol modern.  Bydd asidedd papur yn cael ei brofi, a gellir di-asideiddio dogfennau a llyfrau.  Mae’r cadwraethwyr yn atgyweirio a thrin amrywiaeth eang o ddeunyddiau archifol i safon uchel iawn.  O blith y rhain y mae:

  • papur a memrwn
  • rhwymiadau hynafiaethol a modern
  • seliau cwyr
  • ffotograffau
  • mapiau degwm  

Cadwraeth Ffilm Asetad

Yr enw poblogaidd am ddirywiad negatifau ar sylfeini caen asetad cellwlos yw syndrom finegr. Er eu bod yn llawer mwy ymarferol na’u rhagflaenwyr nitrad, nid yw caenau asetad cellwlos yn para am byth. Mae problemau’n codi pan fo’r asetad cellwlos sy’n cynnal yr emwlsiwn ffotograffig yn dechrau dirywio gan greu asid asetig (“finegr”) fel sgil gynnyrch.  Fersiwn adnewidiadol o gellwlos yw asetad cellwlos. Gan ddibynnu ar dymheredd, lleithder cymharol ac asidedd, gall geisio troi yn ôl i’w ffurf wreiddiol.  Mae hyn yn ei dro yn creu asid asetig o fewn y plastig sy’n ymledu i’r arwyneb gan greu oglau drwg, breuder ac, yn fwyaf niweidiol, gall beri i’r caen grebachu. Mae’r crebachu hwn yn peri bod emwlsiwn y caen, nas difrodwyd gan yr asid, yn gwahanu oddi wrth y caen gan achosi’r sianelu nodweddiadol. Gellir arafu proses y dirywiad yn sylweddol iawn trwy broses selio dan wactod a rhewi’r negatifau a effeithiwyd.

Felly, mae’r adran gadwraeth o fewn y Llyfrgell yn ymgymryd â’r dasg heriol o “drin” y negatifau hyn a effeithiwyd. Gan ddefnyddio techneg a ddatblygwyd gan Chris Woods, Cymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol y Celfyddydau Llundain, ac Ian a Angela Moor yn y Ganolfan Gadwraeth Ffotograffig, gwaredir yr haenau gelatin a cellwlos sy’n peri difrod i’r negatif a bydd pelicl y ddelwedd yn cael ei ail-hydradu a’i ail-hongian mewn gorchuddion polyester anadweithiol.

Mae’r driniaeth hon yn golygu na all y Syndrom Finegr ddifrodi pelicl y ddelwedd mwyach ac felly nad oes angen storio’r negatifau trwy ddefnyddio dulliau rhewi arbenigol.  Y gobaith yw y gellir trin pob negatif asetad cellwlos yng nghasgliad y Llyfrgell yn y modd hwn.  Yn y rhan fwyaf o’r achosion, mae’r driniaeth hon yn adfer delwedd y negatifau i’w stad wreiddiol ac ymhen amser bydd y negatifau hyn a gafodd eu trin yn cael eu hail-ddigido fel bod modd i ddefnyddwyr gael mynediad at ddelwedd o safon uwch.