Symud i'r prif gynnwys

Sut mae eu canfod?

Bellach, catalogir holl dderbynion llawysgrif newydd y Llyfrgell yn electronig, ac mae mwy a mwy o’r disgrifiadau blaenorol yn cael eu hychwanegu at y gronfa, a’u hadolygu.

Gellir cael mynediad arlein i’r llawysgrifau hynny sydd wedi eu catalogio drwy chwilio ar Gatalog y Llyfrgell. Gellir chwilio am enwau, pynciau ac enwau lleoedd, ynghyd â chwilio testun rhydd. Gellir hefyd bori yn yr Ystafell Ddarllen mewn disgrifiadau cynnar a gyhoeddwyd mewn nifer o wahanol gatalogau papur.

Ymhle gellir darllen llawysgrifau?

Wedi sicrhau tocyn darllen, darllenir llawysgrifau yn yr Ystafell Ddarllen yn y Llyfrgell. Mae yno gyfarpar arbennig, megis lamp uwch-fioled, i hwyluso’r gwaith o astudio’r deunydd cynharaf, yn ogystal â chyfeirlyfrau hwylus y gellir ymgynghori â hwy wrth ymchwilio.

Cyfyngir mynediad at rai llawysgrifau oherwydd eu hoed a’u cyflwr, a darperir copïau dirprwyol (digidol neu ficroffilm) ohonynt ar gyfer darllenwyr.

Ymholiadau ac Arddangosfeydd

Dylid cyfeirio ymholiadau am gasgliadau llawysgrif y Llyfrgell at y tîm ymholiadau.

Dangosir detholiad o lawysgrifau’r Llyfrgell yn Ystafell Arddangos Hengwrt trwy gydol y flwyddyn.