Symud i'r prif gynnwys

Mae'r Llyfrgell wedi ei lleoli yn Aberystwyth, ar arfordir Ceredigion, ac mae'n rhaid ei bod hi'n un o'r Llyfrgelleoedd â'r golygfeydd gorau yn y byd, yn edrych dros Fae Ceredigion.

Pwrpas y Llyfrgell yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth yn hygyrch i bawb allu dysgu, ymchwilio a mwynhau.


Casgliadau LlGC

Rydym yn llyfrgell adnau cyfreithiol, sy'n golygu fod gennym hawl i gopi o bob cyhoeddiad print ym Mhrydain ac Iwerddon. Ond wyddoch chi fod ein casgliadau yn cynnwys y canlynol?

Gallwch chwilio'r casgliadau arlein. Mae rhai casgliadau wedi eu digido a gellir eu gweld arlein. Fe gewch wybodaeth bellach ynghyd â rhestr o adnoddau ar dudalen Adnoddau LlGC.

Mae gan y Llyfrgell ddwy Ystafell Ddarllen gall ein defnyddwyr eu defnyddio i weld y casgliadau. I wneud hyn, rhaid cael Tocyn Darllen (am ddim).

Ymweld â'r Llyfrgell

Oriau agor y Llyfrgell yw Dydd Llun - Dydd Gwener 09:00 - 18:00, a dyddiad Sadwrn rhwng 09:30 - 17:00. Gwiriwch ein tudalen oriau agor am y wybodaeth ddiweddaraf cyn ymweld.

Mae mynediad i'r Llyfrgell am ddim, ac yn cynnwys mynediad i'n Hystafell Ddarllen (rhaid cael Tocyn Darllen dilys i fynd i'r Ystafell Ddarllen). Mae gennym faes parcio mawr ar y safle (codir tâl bychan).

Dyma rai o'r gwasanaethau sydd ar gael yn adeilad y Llyfrgell:

Hanes Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Roedd sôn yn y 18fed ganrif am gael llyfrgell genedlaethol i Gymru, ond dim ond yn 1873 y dechreuwyd ymgyrchu o ddifrif. Sefydlwyd pwyllgor i gasglu deunydd Cymreig a'i gadw yng Ngholeg y Brifysgol yn Aberystwyth.

Wedi hynny bu Cymry blaenllaw ac Aelodau Seneddol yn gweithio dros sefydlu Llyfrgell ac Amgueddfa Genedlaethol. Yn 1905 cafwyd addewid o arian gan y llywodraeth trwy'r Gyllideb. Penodwyd pwyllgor gan y Cyfrin Gyngor i benderfynu ar leoliad y ddau sefydliad. Dewiswyd Aberystwyth i'r Llyfrgell yn rhannol am fod casgliad yn y Coleg yn barod. Roedd y meddyg a'r casglwr Syr John Williams hefyd wedi dweud y byddai'n cyflwyno'i gasgliad i'r Llyfrgell petai hi'n cael ei sefydlu yn Aberystwyth. Penderfynwyd gosod yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Sefydlwyd y Llyfrgell a'r Amgueddfa trwy Siarter Frenhinol ar yr un diwrnod, sef 19 Mawrth 1907. Dechreuwyd codi adeilad y Llyfrgell ar Riw Penglais uwchben tref Aberystwyth yn 1911, a dechreuwyd ei ddefnyddio yn 1916.

Mae sawl estyniad wedi cael eu hychwanegu ers hynny. Yn 1996 cafodd storfa fawr newydd ei hagor, ac yn y blynyddoedd diwethaf mae llawer o addasu wedi bod ar ran flaen yr adeilad i'w wneud yn fwy agored a chroesawgar. Cafwyd Siarter Frenhinol newydd yn 2006.