Symud i'r prif gynnwys

Beth yw mapiau ystadau?

Defnyddir y term map ystadau ar gyfer amrywiaeth eang o gynlluniau, o fap yn dangos un eiddo i un sy’n dangos holl diroedd ystâd fawr. Comisiynwyd y mapiau yma fel arfer gan dirfeddianwyr ac fe’u lluniwyd at ddefnydd personol syrfewyr masnachol.


Gwerth y mapiau ystadau 

Mae’r mapiau ystadau yn rhan o’r darlun ehangach o dirlun gwledig Cymru a’i hanes. Mae’r mapiau ystadau cynnar yn dangos dechrau’r broses o newid yn y Gymru ôl-ganoloesol, ôl-ddiwydiadol wrth i berchnogaeth tir ddechrau crynhoi yn nwylo tirfeddianwyr mawr seciwlar. Mae’r arolygon degwm yn dangos y broses hon yn ei hanterth ac mae casgliad sylweddol y Llyfrgell o gatalogau arwerthiant yn dangos diwedd yr ystadau mawr wrth iddynt gael eu rhannu a’u gwerthu ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif.


Casgliad mapiau ystadau'r Llyfrgell

Mae llawer o’r mapiau ystâd ar raddfeydd mawr ac maent yn fanwl iawn, gyda rhai yn dangos coed unigol hyd yn oed. Yn aml mae’r darlunio o safon uchel iawn ac mae rhai o’r mapiau yma yn weithiau celf. Mewn achosion eraill dim ond brasluniau mewn pensil neu inc yw’r mapiau a chai’r rhain eu defnyddio ar gyfer gwaith bob dydd. Mae gan nifer o’r mapiau atodlen i fynd gyda hwy neu ‘dirlyfr’ yn rhoi manylion am nifer yr aceri, y defnydd a wnaed o’r tir, enwau caeau, tenantiaid ayb.

Fodd bynnag, arolygon ystadau yw’r rhan fwyaf o’r mapiau yn dangos tiroedd yn perthyn i ystad benodol. Mae’r mapiau hyn yn ffynhonnell werthfawr nid yn unig ar gyfer astudio’r ystadau eu hunain, ond hefyd mewn perthynas â hanes tirwedd, astudio ffiniau, a hanes teuluol ac adeiladau. Prif ddiddordeb y Llyfrgell yn awr yw ceisio sicrhau deunydd cyn dyfodiad yr arolygon degwm (1836) gan fod gweithiau diweddarach wedi eu selio yn bennaf ar y rhain neu ar fapiau OS.

Cedwir nifer o’r mapiau yma o dan enwau ystadau a thirfeddianwyr Cymru, e.e. Tredegar. Daeth llawer o’r deunydd hwn i’r Llyfrgell fel rhan o gasgliadau mwy o bapurau ystâd gan yr ystadau. Tynnwyd y mapiau o’r casgliadau archifol oherwydd rhesymau’n ymwneud â storio a chadwedigaeth. Mae rhai o’r eitemau yma yn parhau i gael eu rhestru yn y rhestr archifol ac yn aml mae’r dilyniannau rhifo wedi cael eu cadw.

O bryd i’w gilydd bydd y casgliadau o fapiau ystadau wedi eu henwi yn cynnwys copïau o’r arolwg degwm, rhai dyluniadau pensaernïol a chynlluniau sy’n perthyn i reilffyrdd, mwyngloddiau ayb, yr oedd y tirfeddiannwr, o bosib, yn gysylltiedig â hwy neu eu bod ynghlwm wrth eu heiddo. Mae yna hefyd rai mapiau printiedig yn y casgliad (yn bennaf mapiau Arolwg Ordnans  (OS)), fel arfer gydag ychwanegiadau llawysgrif.


Mynediad i'r casgliad mapiau ystadau

Yn ogystal â mapiau unigol neu gyfres o fapiau sy’n cynnwys ystadau mae yna dros 140 cyfrol o fapiau wedi eu rhwymo. Mae’r mapiau yn y cyfrolau hyn wedi cael eu catalogio’n unigol.

Ychwanegwyd pob caffaeliad oddi ar 1992 at Gatalog y Llyfrgell. Mae mwyafrif y deunydd o’r casgliadau wedi eu henwi a dderbyniwyd cyn y dyddiad hwn wedi eu hychwanegu at y catalog arlein, ac rydym yn gweithio i orffen y dasg. Nid yw'r hen gatalog cardiau oedd yn yr Ystafell Ddarllen bellach ar gael.

Yn ogystal â hyn, mae atodiadau printiedig gan rai o’r casgliadau wedi eu henwi o fapiau, ac mae’r rhain hefyd ar gael yn yr Ystafell Ddarllen, ynghyd â’r atodiadau archifol.


Mapiau ystadau y tu allan i'r Llyfrgell

Mae gan lawer o archifdai lleol yn ogystal gasgliadau o fapiau ystadau sy’n perthyn i’w hardal hwy.

Llyfryddiaeth

  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Estate maps of Wales 1600-1836 (Aberystwyth, 1982)
  • Hilary M Thomas, A catalogue of Glamorgan estate maps (Caerdydd, 1992)
  • Sarah Bendell, Dictionary of land surveyors and local map-makers of Great Britain and Ireland 1530-1850, 2 gyfrol, 2ail argraffiad. (Llundain 1997)