Symud i'r prif gynnwys

Mae'r pamffled hwn, a gyhoeddwyd gan Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn 1773, yn trafod achos Dr Thomas Bowles (1695-1773). Yr oedd yn offeiriad di-Gymraeg a apwyntiwyd yn rheithor plwyf Trefdraeth ar Ynys Môn yn 1766, digwyddiad a achosodd ddadlau yng Nghymru ac o fewn yr Eglwys Anglicanaidd. Yn y cyfnod hwn yr oedd plwyfi yng Nghymru yn dal i fod o dan awdurdod canolog Archesgob Caergaint. Byddent yn parhau o dan y drefn hon nes datgysylltu'r Eglwys yng Nghymru yn 1920.

Cefndir

Er bod llawer o'r esgobion yn yr esgobaethau Cymreig yn ddi-Gymraeg, yr oedd mwyafrif yr offeiriadon a rheithorion yn y plwyfi gwledig yn gallu gwneud eu dyletswyddau drwy'r Gymraeg.

Yr oedd cryn ddadlau, felly, pan gafodd offeiriad di-Gymraeg fywoliaeth yn un o'r ardaloedd Cymreicaf yng Nghymru. Pan wnaed Dr Thomas Bowles yn rheithor Trefdraeth a Llangwyfan pump yn unig o'i 500 o blwyfolion a fedrai'r Saesneg. Yr oedd gan y rheithorion blaenorol gryn barch yn yr ardal: yr oeddynt yn unigolion gweithgar a brwd a allai wasanaethu yn y Gymraeg.

Daeth Bowles yn fuan yn amhoblogaidd gyda'i blwyfolion. Nid oedd yn gallu cyfathrebu yn y Gymraeg ac roedd ei wasanaethau uniaith Saesneg yn annealladwy i fwyafrif y gynulleidfa. Daeth yn amlwg hefyd nad oedd, chwaith, yn bwriadu dysgu Cymraeg.

Cryfhaodd yr ymgyrch i'w ddisodli. Arweiniwyd yr ymgyrch hwn gan ddau warden eglwys, Richard Williams o Dreddafydd Ucha (m.1783) a Hugh Williams o Garreg Ceiliog. Cefnogwyd yr ymgyrch gan John Thomas (1736-69), prifathro Ysgol Ramadeg Biwmares. Yr oedd gan John Thomas gyfeillion pwerus ymysg elît y Cymry Cymraeg, a derbyniodd gefnogaeth i'w ymgyrch gan Gymdeithas y Cymmrodorion.

O ganlyniad i bwysau gan ei wraig a'i gyfeillion a oedd yn gynyddol ymwybodol o elyniaeth gynyddol tuag ato, dechreuodd Bowles gymryd rhai gwasanaethau yn y Gymraeg. Er hyn yr oedd y gwasanaethau yma yn aml mor annealladwy â'i wasanaethau Saesneg.

Yr achos

Arweiniodd yr holl helynt at ddwyn achos gerbron Llys y Bwâu ym Mai 1770. Llys y Bwâu oedd prif lys eglwysig talaith Caergaint ac roedd ganddo awdurdod eang dros faterion yn ymwneud ag ymddygiad clerigwyr.

Seiliwyd yr achos yn erbyn Bowles ar Ddeddf Cyfieithu'r Beibl, 1563, a Deddf Unffurfiaeth 1662. Datganodd y rhain y dylid cynnal gwasanaethau drwy'r Gymraeg mewn cymunedau Cymraeg.

Datganodd nifer o dystion nad oedd Bowles yn gallu cymryd gwasanaethau yn y Gymraeg ac nid oedd felly'n gymwys i gyflawni ei ddyletswyddau'n ddigonol. Daeth yn amlwg hefyd bod Bowles wedi ceisio camarwain y llys drwy dwyllo'i wardeiniaid eglwys i arwyddo datganiadau yn dweud ei fod yn gallu gwneud ei ddyletswyddau yn y Gymraeg.

Dyfarnodd y barnwr, Dr George Hay, bod apwyntiad Bowles wedi bod yn gamgymeriad a oedd yn torri cyfraith ganon a chyfraith statud, ond gan bod Bowles eisoes wedi ei apwyntio i'r fywoliaeth ac wedi bod yn gwasanaethu am nifer o flynyddoedd, a'i fod o leiaf wedi ceisio cymryd rhai gwasanaethau yn y Gymraeg, ni allai ddyfarnu dedfryd o ddifreinio. Er hyn, mynegodd ei anghymeradwyaeth o ymddygiad Bowles a gwrthododd dalu ei gostau.

Darllen pellach

  • Geraint H. Jenkins, 'Fresh light on the character of Dr Thomas Bowles'. Yn Anglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions (1991), t.67-75.
  • Eryn M. White, 'Yr Eglwys Sefydliedig, Anghydffurfiaeth a'r Iaith Gymraeg c.1660-1811' yn Geraint H. Jenkins (gol.), Y Gymraeg yn ei Disgleirdeb: yr iaith Gymraeg cyn y Chwyldro Diwydiannol (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1997).

Dolenni perthnasol