Symud i'r prif gynnwys

Cyflwyniad

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru'n prynu cyhoeddiadau a argraffwyd mewn gwledydd eraill, yn ogystal â bod yn llyfrgell adnau cyfreithiol (gyda’r hawl i dderbyn copi am ddim o bob gwaith printiedig sydd ar gael i’r cyhoedd ym Mhrydain ac Iwerddon).

Mae gan y Llyfrgell gasgliad mawr o lyfrau, cyfnodolion a phapurau newydd sydd wedi tyfu dros gyfnod o ganrif, ac sy’n cynnwys eitemau sy’n berthnasol i nifer o grwpiau ethnig, gan gynnwys gweithiau mewn amrywiol ieithoedd a gyhoeddwyd ym Mhrydain a mannau eraill.

Mae’r Llyfrgell hefyd yn casglu deunyddiau mewn llawer o fformatau amrywiol, yn cynnwys:

  • llawysgrifau
  • archifau
  • mapiau
  • lluniau
  • ffotograffau
  • cerddoriaeth
  • deunydd sgrin a sain

Mae’r rhan fwyaf o’r deunydd yma’n gysylltiedig â Chymru, ond mae’n cynnwys enghreifftiau o weithgareddau pobl Cymru mewn gwledydd eraill ac mewn perthynas â diwylliannau eraill.


Gweld a chwilio'r casgliadau

Yn 2007 fe nododd y Llyfrgell dau canmlwyddiant diwedd Masnach Caethweision yr Iwerydd gydag arddangosfa ar y testun ‘Traed mewn cyffion / Feet in chains’, a grëwyd mewn partneriaeth gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Bangor. Yn yr arddangosfa hon cafodd y Diary of Thomas Clarkson, sy’n cynnwys manylion ei daith trwy Gymru i gefnogi gwaharddiad ei arddangos (LlGC 14984A). Mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys llyfrau gan Thomas Clarkson a rhai llythyrau. Roedd y bardd a’r hynafiaethwr Iolo Morgannwg (Edward Williams, 1747-1826) yn un arall a ymgyrchodd yn erbyn y fasnach gaethweision. Mae ei lyfrau a’i bapurau ef hefyd yn y Llyfrgell.

Os na allwch ddarganfod yr hyn rydych yn chwilio amdano yn y Prif Gatalog, cysylltwch â’n Tîm Ymholiadau neu ffoniwch 01970 632 933 am gymorth a chyngor.


Enghreifftiau o gasgliadau ethnig

Y Caribî

Mae deunyddiau yn y Llyfrgell sy’n perthyn i’r Caribî ac i hanes y Caribî. Cofnodwyd rhai o’r rhain gan brosiect CASBAH, a gynhyrchodd wefan beilot ar gyfer adnoddau ymchwil sy’n gysylltiedig ag Astudiaethau’r Caribî a hanes pobl Ddu ac Asiaidd yn y DU.

Mae gwefan CASBAH (gwefan wedi ei archifo) yn cynnwys disgrifiad byr o adnoddau print perthnasol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. (Sylwer fod y ddolen i gatalog y Llyfrgell bellach wedi newid i'r catalog cyflawn). Mae gwybodaeth hefyd am rai ffynonellau archifol penodol yn Atodiad 2.

Ieithoedd Indiaidd

Mae’r Llyfrgell yn berchen ar nifer o weithiau mewn ac am ieithoedd Indiaidd. Mae’r darllenydd ac ymchwilydd cyson, Bijon Sinha, wedi bod mor garedig â’n helpu i adnabod rhai o gryfderau’n casgliad. Ceir gweithiau ar:

  • ieithyddiaeth ac ieithyddiaeth gymharol, yn arbennig felly ar y cysylltiadau rhwng ieithoedd Indiaidd ac Ewropeaidd
  • gweithiau ar ieithoedd unigol, yn enwedig Sanskrit
  • ieithoedd eraill hynafol a modern e.e. Pali, Devanagri, Hindi, Bengali, Oriya, Gujerati, Punjabi, Nepali a Tibeteg
  • llenyddiaeth mewn Bengali, yn cynnwys barddoniaeth, llenyddiaeth, a straeon gwerin
  • testunau Vedic
  • gweithiau ar grefyddau India, yn cynnwys astudiaethau o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif
  • casgliad eang o Ddogfennau Ymerodrol Prydeinig sy’n cynnwys adroddiadau gweinyddol, barnwrol, addysgol ac iechyd cyhoeddus ar gyfer llawer o’r taleithiau Indiaidd yn y cyfnod cyn annibyniaeth
  • cyfrolau argraffedig o Gyfrifiad India, 1901, 1911, 1921 ac 1931

Nid yw’r casgliad yma wedi ei gatalogio, ond byddwn yn gwneud pob ymdrech i ateb ymholiadau.

Tsieinëeg

Tsieinëeg

Mae gennym gasgliad pwysig o tua 4,500 o gyfrolau a roddwyd i’r Llyfrgell gan y Sinolegydd amlwg David Hawkes, oedd yn gyn-Athro Tsieinëeg yn Rhydychen. Mae’n cynnwys gweithiau mewn Tsieinëeg, Siapanëeg a Saesneg yn ymwneud ag:

  • iaith
  • llenyddiaeth
  • hanes
  • athroniaeth
  • crefydd 
  • drama Tsieinïaidd

Mae gan y Llyfrgell gatalog cardiau o’r holl gasgliad. Mae hwn wedi cael ei gopïo a’i sganio, a gellir edrych arno fel dogfennau pdf isod.

Catalog cardiau Casgliad David Hawkes (pdf)

Adborth

Fe ddowch o hyd i lawer o bethau o ddiddordeb trwy bori’r catalog arlein gan ddefnyddio termau chwilio sy’n berthnasol i leiafrifoedd ethnig. Hoffem ychwanegu at y dudalen hon, a byddem yn gwerthfawrogi pe baech yn cysylltu â ni i dynnu ein sylw at unrhyw beth y credwch chi ei fod o ddiddordeb i gymunedau ethnig lleiafrifol.