Symud i'r prif gynnwys

Ydych chi am:

  • Wybod mwy am fardd, nofelydd neu ddramodydd?
  • Weld drafft cyntaf o’ch hoff gerdd neu nofel?
  • Ddarllen llythyr neu ddyddiadur gan eich hoff lenor?
  • Ysgrifennu beirniadaeth lenyddol, adolygiad neu gofiant?
  • Ddarllen sgriptiau radio a theledu’r BBC neu gyfansoddiadau’r Eisteddfod Genedlaethol?

Beth sydd ar gael yn y Llyfrgell?

e.e. T Gwyn Jones, R Williams Parry, T H Parry-Williams, W J Gruffydd, Kate Roberts, Saunders Lewis, Islwyn Ffowc Elis, Angharad Tomos…

e.e. Jack Jones, Alun Lewis, John Cowper Powys, Brenda Chamberlain, Gwyn Thomas, Rhys Davies, David Jones, Vernon Watkins, Idris Davies, Gwyn Jones, Raymond Williams…

e.e. Cyngor Celfyddydau Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, BBC (Cymru), Yr Academi Gymreig, Y Faner, Gwasg Gee…

Beth sydd mewn archif lenyddol?

Mae pob archif yn unigryw - gall amrywio o archif gynhwysfawr i lawysgrifau unigol. Yn aml fe geir drafftiau o weithiau, gohebiaeth, a phapurau personol. 

Efallai bod un llenor wedi cadw llyfrau nodiadau, drafftiau llawysgrif, drafftiau teipysgrif, proflenni, ac adolygiadau yn y wasg tra bo un arall heb gadw unrhyw ddrafftiau o’i weithiau.

Mae’r un peth yn wir gyda gohebiaeth – weithiau ceir ffeiliau cyflawn o ohebiaeth bersonol a phroffesiynol, ond dro arall nifer bychan o lythyrau sydd wedi goroesi.

Mae papurau personol yn medru taflu goleuni ar yr awdur a’i waith, ac yn achlysurol ceir dyddiaduron, ffotograffau, a phapurau teuluol. Weithiau nid oes gennym gasgliad o bapurau’r llenor ei hun, ond mae llythyrau neu lawysgrifau yn goroesi ymysg papurau pobl eraill.

Defnyddio archifau llenyddol

Mae drafftiau yn medru dangos y broses greadigol, datblygiad y testun, newidiadau mewn steil a strwythur ac yn medru helpu i ddyddio’r gwaith.

Gall yr ohebiaeth daflu goleuni ar fywyd a syniadau’r awduron, eu cylch o ffrindiau a’u dylanwadau.

Gall y papurau personol gynnwys gwybodaeth bwysig i fywgraffyddion, golygyddion, haneswyr cymdeithasol, myfyrwyr sy’n astudio llenyddiaeth, neu edmygwyr selog.