Symud i'r prif gynnwys

Mae gweithiau sydd wedi eu labelu â’r symbol hwn allan o hawlfraint ac felly’n rhydd o unrhyw gyfyngiadau dan gyfraith hawlfraint.

Gallwch ei gopïo, ei addasu ei ddosbarthu a pherfformio’r gwaith, hyd yn oed at bwrpas masnachol, heb ofyn caniatâd.

Buasem yn ddiolchgar petaech yn ystyried defnyddio’r gweithiau hyn yn unol â’r canllawiau canlynol sydd wedi eu datblygu gan Sefydliad Europeana.


Canllawiau ar gyfer defnyddio gweithiau yn y parth cyhoeddus (heb fod yn rhwymol)

1. Rhowch glod pan y mae'n ddyledus. Pan fyddwch yn defnyddio gwaith parth cyhoeddus, rhowch gydnabyddiaeth i’r awdur neu'r crëwr os gwelwch yn dda. Rhowch hefyd gydnabyddiaeth i’r sefydliad (megis yr archif, amgueddfa neu lyfrgell) a ddarparodd y adnodd. Po fwyaf y gydnabyddiaeth a roir i’r sefydliadau hyn, y mwyaf yw'r anogaeth i gyhoeddi mwy o weithiau parth cyhoeddus ar-lein.

2. Diogelwch enw da crewyr a darparwyr. Pan fyddwch yn defnyddio neu addasu gwaith parth cyhoeddus, ni ddylech briodoli addasiadau i'r crëwr neu ddarparwr y gwaith. Ni ddylai enw neu logo'r crëwr neu'r darparwr gael ei ddefnyddio i hyrwyddo’r gwaith sydd wedi'i addasu neu unrhyw ddefnydd ohono heb eu caniatâd.

3. Dangoswch barch tuag at y gwaith gwreiddiol. Peidiwch â defnyddio'r gwaith mewn unrhyw ffordd sy'n anghyfreithlon ac yn gamarweiniol. Pan fyddwch yn addasu ac ailddosbarthu gwaith parth cyhoeddus, dylai unrhyw newidiadau a wnaed i'r gwreiddiol gael eu nodi'n glir. Dylech labelu'r gwaith i ddangos eich bod wedi ei newid, er mwyn i ddefnyddwyr eraill wybod pwy wnaeth y newidiadau.

4. Dangoswch barch tuag at y crëwr. Os yw'r crëwr, neu ddarparwr ar ran y crëwr, wedi gofyn na ddylai gwaith parth cyhoeddus gael ei newid neu y dylid ei ddefnyddio mewn cyd-destunau penodol yn unig, yna parchwch eu dymuniad os gwelwch yn dda.

5. Rhannwch wybodaeth. Os ydych yn defnyddio gwaith parth cyhoeddus i greu gwaith newydd, neu os oes gennych wybodaeth ychwanegol amdano (er enghraifft ble y daeth, ei awdur, cynnwys na dalwyr hawliau eraill yn bosibl), rhannwch y wybodaeth os gwelwch yn dda. Gallai hynny gynnwys tagio, anodi neu wneud sylwadau ar waith parth cyhoeddus sy'n cael ei gyhoeddi ar-lein ac anfon y wybodaeth hon yn ôl i'r sefydliad sy'n dal y gwrthrych gwreiddiol.

6. Byddwch yn ymwybodol o ddiwylliannau. Os yw'r gwaith yn cynnwys elfennau sy'n sensitif yn ddiwylliannol, ni ddylech newid neu ddefnyddio'r rhain mewn ffyrdd a allai fod yn ddifrïol i ddiwylliannau eraill neu gymunedau.

7. Cefnogwch ymdrechion i gyfoethogi'r parth cyhoeddus. Gofynnir i ddefnyddwyr gweithiau parth cyhoeddus i gefnogi ymdrechion sefydliadau treftadaeth ddiwylliannol a gwyddonol i ofalu am, cynnal, digideiddio a rhoi mynediad i weithiau parth cyhoeddus. Dylai'r cymorth hwn gynnwys cyfraniadau ariannol neu waith o fath arall, yn enwedig pan fydd y gwaith yn cael ei ddefnyddio mewn modd masnachol neu ddibenion er-elw eraill a phan fo’r darparwr yn sefydliad cyhoeddus neu ddi-elw.

8. Cadwch y nodau parth cyhoeddus a’r hysbysiadau. Ni ddylai defnyddwyr gweithiau parth cyhoeddus ddileu unrhyw nod parth cyhoeddus neu rybudd sydd wedi ei gymhwyso, nac ychwaith ddarparu gwybodaeth gamarweiniol am ei statws hawlfraint.


Ceisiadau am gopïau ansawdd uchel

Os hoffech chi wneud cais am gopi ansawdd uchel dan drwydded, cwblhewch ein Ffurflen Ymholiadau Arlein os gwelwch yn dda.