Mapiau Ystadau

Roedd arolygon tir canoloesol yn ddogfennau a baratowyd ar gyfer arsylwi, ysgrifennu neu ddisgrifiadau llafar. Dim ond yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg y cychwynwyd ychwanegu mapiau manwl at yr arolygon ysgrifenedig. Roedd y mapiau, a oedd yn y bôn, yn gofnodion preifat o berchnogaeth neu feddiannaeth a oedd hefyd yn cynorthwyo i reolaeth ystadau, ac yn fuddiol hefyd fel tystiolaeth gyfreithiol neu brofeb. Roedd newidiadau amaethyddol hefyd yn cynyddu'r galw cyson am fapiau ystad.

Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru gasgliad mawr a phwysig o fapiau llawysgrif ystadau yn perthyn i Gymru, yn amrywio mewn dyddiad o’r 16eg ganrif i’r 20fed ganrif. Dim ond ychydig o ystadau mawr yng Nghymru a arolygwyd cyn 1760, cynhaliwyd y mwyafrif o'r arolygon rhwng 1760 a 1800. Defnyddir y term “Mapiau Ystadau” ar gyfer amrywiaeth eang o gynlluniau, e.e. mapiau yn dangos eiddo sengl a rhai yn darlunio tiroedd cyfan ystâd fawr. Maent yn amrywio'n fawr o fod yn weithiau cymhleth a manwl wedi eu lliwio'n hyfryd i ddarluniau gwaith amrwd. Dogfennau ffwythiannol i ddangos eiddo'r perchennog yn unig heb unrhyw fanylion diangen oedd y mapiau yma. Gan amlaf, fe gomisiynwyd y mapiau hyn gan dirfeddianwyr ac fe’u crëwyd ar gyfer defnydd preifat gan dirfesurwyr masnachol.

Dyma ddetholiad digidol o’n Mapiau Ystadau:

          Cipolwg ar ddatblygiad a dirywiad ystâd diriog yng Ngogledd Ceredigion

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?