Cynlluniau Trefi

Mae cynlluniau trefi yn fapiau ar raddfa fawr o ardaloedd adeiledig, sy’n darparu gwybodaeth fanwl am y tirwedd a'r adeiladau trefol.

Y cyhoeddiad mawr cyntaf i ddangos cynlluniau trefi manwl oedd Civitates Orbis Terrarum Braun & Hogenberg (1572-1617), ac roedd yn cynnwys nifer o drefi a dinasoedd yn Lloegr, yr Alban ac Iwerddon, ond nid oes un o Gymru. Mae rhai o gynlluniau trefi cynharaf Cymru yn ymddangos fel mewnosodiadau ar Fapiau Sirol John Speed. Mae'r cynlluniau hyn yn weddol fach ac yn dangos ychydig o fanylion. Prin iawn yw'r cynlluniau trefi eraill ar gyfer trefi Cymreig a gyhoeddwyd yn ystod y 200 mlynedd nesaf, er y gellir dod o hyd i rai enghreifftiau mewn mapiau llawysgrif, megis cynllun y Trallwng a ddangosir ar fap Humfrey Bleaze o Stad Castell Powis (1629).

Erbyn dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd mwy o ddiddordeb yn y ffordd yr oedd trefi yn cael eu trefnu a’u rhedeg, ac arweiniodd hyn at gynnydd mewn mapiau yn dangos cynlluniau manwl o drefi a dinasoedd. Rhai o'r enghreifftiau cynharaf i Gymru oedd y mapiau trefol a gynhyrchwyd gan John Wood yn y 1830au. Mae'r ffaith bod rhai o'r mapiau hyn wedi eu anodi i ddangos datblygiadau newydd yn dystiolaeth o bwysigrwydd cynlluniau o'r fath. Wrth i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg fynd yn ei blaen, datblygodd tyfiant llywodraeth leol law yn llaw â mapio trefi manwl gan yr Arolwg Ordnans. Mae'r cynlluniau graddfa 1:500 a gynhyrchwyd ganddynt ymhlith y mapiau graddfa fwyaf a wnaed gan yr Arolwg Ordnans ac maent yn nodedig am eu sylw i’r manylion lleiaf, megis coed unigol ac offer stryd.

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?