Mae mynediad i'r Llyfrgell am ddim a chroesawir teuluoedd.
Mae gweithgareddau am ddim ar gael yn rhai o'n arddangosfeydd, a chynhelir digwyddiadau arbennig yn ystod gwyliau ysgol.
Ardal arddangos Byd y Llyfr
Mae gan y Llyfrgell gaffi hyfryd. Mae'n gweini brechdanau cartref, tatws trwy'u crwyn, cawl a phrydau mwy amser cinio, ac mae amrywiaeth o gacennau cartref blasus ar gael ar gyfer amser te. Ceir hefyd amryw ddiodydd oer a phoeth.
Gellir archebu pryd maint plentyn am bris rhesymol.
Mae'r caffi wedi ei rannu'n ddwy ardal, un â byrddau a chadeiriau a'r llall â chadeiriau esmwyth a byrddau coffi.
Mae'r caffi wedi ei leoli ar y llawr gwaelod, gyda mynediad rhwydd i fygis. Mae cadeiriau uchel ar gael.
Mae toiledau a chyfleusterau newid babi ar gael ar y llawer gwaelod.