Casglu Cyfoes

Yn fuan 6.4.19 - 21.3.20

Dewch i ddarganfod ychwanegiadau trawiadol newydd i'n casgliad celf Cymreig cyfoes.  O waith haniaethol geometrig i argraffiadaeth gyfoes, mae’r arddangosfa hon yn dangos ystod eang o arddull amrywiol artistiaid Cymreig yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain.  Mae ein casgliad yn tyfu gyda phryniadau cyson a rhoddion oddi wrth gymwynaswyr hael ac mae’r detholiad hwn yn cynrychioli’n derbynion diweddar.

Ymhlith yr artistitiad mae Iwan Bala, Mary Lloyd Jones, Elfyn Lewis, Paul Peter Piech, Ceri Richards, Lisa Eurgain Taylor ac Ernest Zobole.