Ysbrydoli'r Ymdrech: Printiau’r Rhyfel Byd Cyntaf

30 Ionawr - 28 Mai 2016

Arddangosfa deithiol o Amgueddfa Genedlaethol Cymru – National Museum Wales o’r 66 gwaith ym mhortffolio printiau 1917, The Great War: Britain’s Efforts and Ideals, sy’n cynnwys cyfraniadau gan rai o artistiaid Prydeinig enwocaf y cyfnod, megis Augustus John, Frank Brangwyn, William Rothenstein a C. R. W. Nevinson.  Gyda’r nod o ysbrydoli’r cyhoedd oedd wedi cael digon ar ryfela, ac ailgynnau fflam yr ymdrech, dangosa’r printiau hyn gamau cynnar propaganda gwleidyddol modern.