Philip Jones Griffiths: Ffocws Cymreig ar Ryfel a Heddwch

27.06.15 – 12.12.15

Oriel Gregynog

Arddangosfa sy'n dathlu bywyd a gwaith un o ffotograffwyr dogfen pwysicaf y cyfnod diweddar, Philip Jones Griffiths.

Trwy gyfrwng gweithiau gwreiddiol a deunydd o'i archif bersonol, byddwn yn edrych ar ei waith cynnar ym Mhrydain, ei ffotograffau byd-enwog yn dogfennu amryw ryfeloedd a’u sgil effeithiau, yn ogystal â gweithiau llai adnabyddus yn y cyfnod yn arwain at ei farwolaeth yn 2008.