Chwedlau'r Seintiau

18 Chwefror 2017 - 10 Mehefin 2017

Hengwrt

Amlyga’r arddangosfa hon oroesiad y traddodiadau canoloesol am y gwŷr a’r gwragedd sanctaidd sy’n cynrychioli rhan bwysig o etifeddiaeth ddiwylliannol y wlad.

Gelwid ar y sentiau i iacháu ac i amddiffyn, ac am eu cymorth wrth geisio sicrhau iachawdwriaeth dragwyddol yn yr Oesoedd Canol. Roedd eu creiriau a delweddau ohonynt i’w gweld yn yr eglwysi a gysegrwyd iddynt a byddai pererinion yn ymweld â hwynt.

Mae hagiograffeg ganoloesol Gymraeg yn dadlennu traddodiad cyfoethog yn ymwneud â seintiau lleol yng Nghymru, yn ogystal â seintiau a oedd yn hysbys ar draws y byd Cristnogol. Yn ôl y traddodiadau hyn, roedd y seintiau’n cyflawni gwyrthiau, yn ymladd â chewri ac angenfilod ac yn atgyfodi’r meirw, ond roeddynt hefyd yn barod i farw dros eu ffydd. Ysgrifennid ‘bucheddau’ rhyddiaith yn Lladin ac yn Gymraeg, ac mae’r rheini sydd wedi goroesi yn cyfeirio at ragor o hanesion coll ac yn ceisio gwneud synnwyr o draddodiadau sy’n anghyson â’i gilydd.

Mae testunau achyddol yn rhestru seintiau yn ôl eu perthynas â’i gilydd, ac yn cynnwys enwau nifer o seintiau na wyddom y nesaf i ddim amdanynt. Nid yw’r un o’r ffynonellau sydd wedi goroesi wedi ei hysgrifennu cyn yr unfed ganrif ar ddeg. Maent i gyd yn llawer mwy diweddar na’r cyfnod pan oedd y dynion a’r merched y daethpwyd yn ddiweddarach i’w mawrygu fel seintiau wrthi’n sefydlu eu heglwysi a’u habatai yng Nghymru yn gynnar yn yr Oesoedd Canol.