Casgliad Hawkes: Llyfrau Tseineaidd

30 Ionawr - 15 Chwefror 2014

Eleni mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn dathlu Blwyddyn Newydd y Ceffyl trwy arddangos rhai o’r prif drysorau hanesyddol  o’i chasgliad Tseineaidd. Casglwyd rhain gan yr Athro David Hawkes, pan yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Peking yn y 1940au a’r 1950au cynnar, ac y maent yn cynnwys eitemau o lenyddiaeth hynafol o’r breninlliniau cynharaf hyd at y Werininiaeth a’r Tseina Newydd dan Mao Zhedong. Tra’n Athro mewn iaith a llên Tseineaidd ym Mhrifysgol Rhydychen, cwblhaoedd Hawkes ei gampwaith, sef cyfieithiad llawn o’r nofel glasurol Hanes y Garreg  (石头记).  Mae ei gasgliad cyfan eisoes yng ngofal y Llyfrgell Genedlaethol.

Rhagor o wybodaeth am gasgliad yr Athro David Hawkes, gan gynnwys rhagarweiniad gan Gyfarwyddwr Llyfrgell Shanghai, Dr Wu Jianzhong.

Bydd yr arddangosfa, yn Ystafell Summers yn y Llyfrgell Genedlaethol, ar agor o 30 Ionawr hyd at 15 Chwefror. Croeso i bawb!