Beth sy'n Newydd?: Derbynion Diweddar

24 Ionawr - 9 Mai 2015

Arddangosfa sy’n dod â rhai o’r trysorau diweddaraf i gyrraedd casgliad cynyddol y Llyfrgell ynghyd.  Yn cael eu dangos am y tro cyntaf, mae’r gweithiau yma yn dathlu'r amrywiaeth yng nghasgliadau'r Llyfrgell.

Ymhlith y derbynion diweddar mae ffotograffau gan Angus McBean a John Dillwyn Llewelyn, papurau'r Gyrrwr John Parry a T. Gwynne Jones, a chyfres o dorluniau leino Edwina Ellis i enwi ond ychydig.