Animeiddio yng Nghymru

20 Hydref 2012 – 2 Mawrth 2013

Mae Mike Collins a David Roach yn enwog am greu stripedi comig Dr.Who, Spiderman, Batman a Judge Dredd, ac yn yr arddangosfa hon byddwn yn cael cipolwg ar frasluniau ac animeiddiadau nad oes neb wedi eu gweld yn gyhoeddus o’r blaen.

Bydd cyfle hefyd i weld eitemau o gasgliad y Llyfrgell yn cynnwys stribedi cartŵn Superted, darluniau gwreiddiol Llyfr Mawr y Plant a rhai o gartwnau dychanol cynharaf gan gartwnwyr o Gymru.

Mae'r arddangosfa hon ar y cyd ag Amgueddfa Cymru.