Trwy'r sesiynau arbennig yma, mae modd dysgu am gasgliadau'r Llyfrgell a sut i wneud y gorau o'r adnoddau a'ch amser yn y Llyfrgell.
Sesiynau byr o tua 30 munud yw'r rhain yn seiliedig ar eich gofynion chi. Maent yn addas i unigolion neu i grŵp bychan o bobl (hyd at 3 person). Nid oes angen tocyn darllen arnoch cyn bwcio sesiwn, fodd bynnag, gan fod y sesiynau yn cael eu cynnal yn yr Ystafelloedd Darllen, bydd angen tocyn llawn arnoch cyn cael mynediad i’r Ystafell Ddarllen briodol.
Mae manylion ar sut i gael tocyn darllen i’w gweld ar ein gwefan. Cofiwch adael digon o amser i gasglu eich tocyn cyn i’r sesiwn gychwyn.
Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio ar gyfer archebu sesiwn gwybodaeth yn unig ac ni fydd yn cael ei drosglwyddo i unrhyw drydydd parti.
Am ragor o wybodaeth am ddefnydd y Llyfrgell o'ch gwybodaeth bersonol, cysylltwch a gofyn(at)llgc.org.uk neu ymwelwch â'n tudalennau gwarchod data.