Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae Smartify yn ap byd eang sy’n eich galluogi i gael mynediad at gasgliadau celf ar eich ffôn clyfar neu dabled.
Drwy sganio eitemau penodol o fewn adeilad y Llyfrgell, sydd wedi’u labelu’n glir â logo Smartify, byddwch yn derbyn gwybodaeth bellach am y crëwr a’r gwaith.
Gallwch ddefnyddio’r ap drwy ddilyn y camau syml isod:
1. Lawrlwythwch yr ap Smartify am ddim drwy siop ap Android neu siop ap Apple
2. Cadwch lygad allan am eitemau sy’n cael eu harddangos o fewn yr adeilad sydd â’r logo Smartify.
3. Agorwch yr ap a daliwch eich ffôn at unrhyw un o’r eitemau hynny a phwyswch ‘Sganio’.
4. Bydd gwybodaeth ychwanegol am yr eitem mewn golwg yn ymddangos ar eich sgrin.
5. Gallwch gadw’r eitemau yn eich oriel ddigidol bersonol neu rannu eitemau yr ydych chi wedi’u gweld gyda’ch ffrindiau.