Symud i'r prif gynnwys
Ffurflen gais ar gyfer y Sioe Frenhinol Cymru gyntaf yn Aberystwyth, 1904

2 Awst 2024

I’r rhai sy’n gweld eisiau holl fwrlwm yr arddangos a’r cystadlu yn ogystal â’r hwyl a gafwyd yn y Sioe Frenhinol yn ddiweddar, dyma fwrw golwg ar hanes y Sioe Fawr gyntaf a gynhaliwyd 120 mlynedd yn ôl.

Cynhaliwyd honno ar ddyddiau Mercher ac Iau, y 3ydd a’r 4ydd o Awst 1904 yng Nghae’r Ficerdy ar Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth. Hon oedd sioe’r Welsh National Agricultural Society, neu’r Gymdeithas Amaethyddol Genedlaethol Gymreig i roi ei henw Cymraeg ar y pryd. Sefydlwyd y gymdeithas yn gynharach y flwyddyn honno ar ôl i Lewes T. Lovedon Pryse (a ddaeth yn drydydd barwnig Gogerddan yn ddiweddarach) alw pump o wŷr bonheddig at ei gilydd mewn gwesty yn Aberystwyth.

Gwelwn o lyfr cofnodion y Gymdeithas sydd ar gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol mai yn y Lion Royal Hotel y ffurfiwyd y Gymdeithas, etholwyd y Llywydd a’r Is-lywydd cyntaf, ac yno hefyd y lluniwyd rhai o reolau drafft er mwyn eu cyflwyno i’r cyfarfod cyffredinol cyntaf o gefnogwyr a oedd i’w gynnal ryw bythefnos yn ddiweddarach yn Llundain.

Cynhaliwyd y cyfarfod hwnnw ar y 26ain o Chwefror yn Ystafell Bwyllgor 12 yn Nhŷ’r Cyffredin, gyda George Charles Herbert, 4ydd Iarll Powis fel y Llywydd cyntaf yn y Gadair. Ymhlith y saith rheol a basiwyd yno, roedd y cyntaf yn nodi mai amcan y Gymdeithas – i ddyfynnu’r cofnod gwreiddiol oedd “the improvement of the breeding of stock and the encouragement of agriculture throughout Wales”. Roedd y Gymdeithas yn y lle cyntaf i gynnal sioe flynyddol gyda’r nod o gael y gorau o’r bridiau o bob cwr er mwyn eu harddangos yng Nghymru.

Gyda llai na phum mis i drefnu’r sioe gyntaf, mi aethpwyd ati’n syth i wireddu’r hyn a benderfynwyd yn Llundain, ac erbyn dechrau Awst, fe welir yn y catalog gwreiddiol fod cyfanswm o 74 dosbarth o gystadlaethau. Roedd 34 o ddosbarthiadau ar gyfer ceffylau gwedd, ceffylau cyfrwy, ceffylau hela, a chobiau a merlod; 18 o ddosbarthiadau ar gyfer gwartheg byrgorn, gwartheg duon Cymreig, a gwartheg Henffordd; 18 o ddosbarthiadau ar gyfer defaid Bryniau Ceri, defaid Mynydd Cymreig, ac unrhyw frîd pur eraill ac eithrio’r ddau a nodwyd eisoes; a phedwar dosbarth ar gyfer y moch – bridiau gwyn a bridiau du. Cafwyd 482 o geisiadau a chynigiwyd £904 o wobrau (sy’n cyfateb i dros £90,000 heddiw), yn cynnwys 34 o wobrau arbennig yn gyfyngedig i ffermwyr Cymru.

O ran y peiriannau a nwyddau amaethyddol, roedd 22 o stondinau yn arddangos implements ac offer ffermio. Roedd rhai wedi dod cyn belled â Llundain, Lerpwl a Manceinion, tra bod eraill yn fusnesau lleol. Yn eu plith, roedd gan Hughes Davies, Yr Emporiwm, Llambed casgliad o beindars, peiriannau cynaeafu ac injans olew; David Ellis a’i Feibion, haearnwerthwr o Aberystwyth â chasgliad o beiriannau golchi, hidlau hufen a chaniau llaeth; ac roedd J. M. Williams, saer cerbydau o Aberystwyth yn arddangos nifer o gerbydau newydd, gan gynnwys certi cŵn a thrapiau.

Gellid dychmygu mai M. H. Davis a’i Feibion, Stryd y Bont, Aberystwyth oedd gyda’r arddangosfa fwyaf trawiadol ar Stondin 6 a 7. Roedd ganddynt y Royal Society of England’s First Prize Potato Digger o wneuthuriad Powell Bros a Whitaker, Wrecsam; Two-horse Mowing Machine gan D. H. Osborne a’i Gwmni o Auburn, Unol Daleithiau America a Llundain; ac Improved Patent Hay Elevator o wneuthuriad David Jones a’i Feibion, Lion Works, Castellnewydd Emlyn – a enillodd un o’r gwobrau medal a gynigiwyd i arddangoswyr implements yn y sioe.


Ymhlith yr arddangoswyr da byw, roedd Edward VII wedi anfon tri o’i wartheg Henffordd o’r Royal Farms, Winsdor i’r sioe, ac ynghanol cofnodion Ystâd Gogerddan, mae yna gopi o ffurflen gais ar gyfer cystadleuaeth Dosbarth 50 – am y tarw gorau, unrhyw oed, o’i eiddo. Yn ôl yr adroddiadau, fe gipiodd ei “Fire King” y wobr gyntaf ar ôl cystadleuaeth agos rhyngddo ef a’r un a ddaeth yn ail.

Yn ogystal â’r holl gystadlu ac arddangos da byw ac offer amaethyddol, cafwyd cystadlaethau neidio ceffylau yn y prif gylch ac arddangosiadau deorydd ar gyfer magu cywion. Diddanwyd pawb gan fand y 1st Cardigan Artillery Volunteers (Aberystwyth) yn perfformio rhaglen o gerddoriaeth boblogaidd a threfnwyd cinio cyhoeddus mewn pabell fawr am dri swllt.

Yn ôl adroddiad yn y Welsh Gazette, cafwyd tywydd braf dros ddeuddydd y sioe a heidiodd miloedd o bobl i Aberystwyth ar y ffyrdd ac ar drenau oedd wedi gosod gwasanaethau arbennig o’r de, gogledd a’r canolbarth ar gyfer y digwyddiad. Mae’n debyg bod rhwng 9,500 a 10,000 o bobl wedi mynychu maes y sioe.

Cynhaliwyd y pum sioe flynyddol wedi hynny yn Aberystwyth, cyn penderfynu teithio o amgylch y wlad yn 1910. Erbyn hyn wrth gwrs, mae’r sioe’n cael ei hadnabod fel Sioe Frenhinol Cymru, a hynny ar ôl i George V ganiatáu i’r Gymdeithas yn 1922 i ddefnyddio’r rhagddodiad ‘Royal’ yn ei theitl, a byth ers hynny, mae’r Gymdeithas yn cael ei hadnabod fel Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. Cyn symud i safle parhaol yn 1963, mi wnaeth y sioe ymweld â Cheredigion ddwywaith – yn 1933 a 1957. Ac ers ei chynnal yn Llanelwedd, mae Ceredigion wedi bod yn Sir Nawdd yn 1967, 1983, 1995, 2010 ac wrth gwrs 2024. Wrth ystyried felly bod dechreuadau’r Gymdeithas yng Ngheredigion, roedd hi’n gyd-ddigwyddiad rhyfedd mae Sioe’r Cardis oedd hi eleni, a hynny ar yr union flwyddyn y mae’r Gymdeithas yn nodi carreg filltir arbennig yn ei hanes.

Yn y rhifyn cyntaf o Gylchgrawn y Gymdeithas a gyhoeddwyd (yn unol ag un o amcanion eraill y Gymdeithas) yn Hydref 1904, disgrifiwyd y sioe gyntaf “undoubtedly, from start to finish a great success. Particularly noticeable were those branches of the Show for which Wales is famous, that is, Ponies and Cobs, Welsh Black Cattle and Welsh Sheep, and this is as it ought to be, because a Welsh National Show should be an exhibition of those specialities for which Wales is famous.”

Yr arwyddair a ymddangosodd ar emblem gwreiddiol y Gymdeithas yn 1904 oedd “Llwydd a Chynydd”. Gellid dweud fod Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 120 oed eleni, wedi llwyddo a chynyddu ar hyd y blynyddoedd. Mae’r Sioe Frenhinol y mae hi’n gyfrifol am ei threfnu’n flynyddol yn cael ei hystyried fel y sioe amaethyddol fwyaf yn Ewrop erbyn heddiw. Eleni, cafwyd tua 6,000 o geisiadau ar gyfer bron i 1,500 o ddosbarthiadau da byw a gwnaeth oddeutu chwarter miliwn fynychu maes 150 erw yn ystod y pedwar diwrnod, sy’n dathlu ac arddangos amaethyddiaeth a bywyd cefn gwlad Cymru.

 

D. Rhys Davies

Archifydd Cynorthwyol

 

Categori: Erthygl