Mae Llyfrgell Genedlaethol yn barod i’ch croesawu yn Eisteddfod yr Urdd gyda stondin llawn hwyl a sbri ym Meifod.
Llawysgrif Brut y Tywysogion yw thema’n stondin y flwyddyn yma, a’r cysylltiad sydd rhwng Tywysogion Cymru a hen Lys Mathrafal, sef lleoliad y maes.
Yn ogystal â’r gweithgareddau a gemau amrywiol ar y stondin, mae sawl gweithdy i ddiddanu’r plant.
Dydd Llun - Sesiynau Garsiwn y Castell
Dydd Mawrth - Gwaith collage gyda Kim James Williams
Dydd Mercher - Sesiwn cyfansoddi gyda Nia Morais, Bardd Plant Cymru
Dydd Iau - Sesiynau Garsiwn y Castell
Dydd Gwener - Arddangosfa ‘pop-up’ gydag Academi Heddwch Cymru
Mae rhywbeth i bawb ar y stondin, felly galwch draw i’n gweld!
Categori: Newyddion